Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar BBC iPlayer Radio ar hyn o bryd

Bocsys cig o fferm atgynhyrchiol a chynaliadwy

Hanes ffermwyr o ardal Hendygwyn-ar-Dâf yn Sir Gaerfyrddin sy'n gwerthu bocsys cig ar y we. The story of a family of farmers from Carmarthenshire who sell meat boxes online.

Hanes Aled Evans a'r teulu o ardal Hendygwyn-ar-Dâf yn Sir Gaerfyrddin sy'n gwerthu bocsys cig ar y we, a'r cig wedi'i gynhyrchu ar dir cynaliadwy ac atgynhyrchiol.

Hefyd, Beti Griffiths o Lanilar sy'n sôn am gyfrol sydd newydd ei rhyddhau fel teyrnged i'r amaethwr a'r cyflwynydd Dai Jones, Cofio Dai.

William Evans o Fferm Hendreseifion ger Machynlleth sy'n edrych ymlaen at ymgais dorri record cneifio arbennig ar ei fferm cyn bo hir, a chawn glywed hefyd gan Meirion Evans fydd yn ymgymryd â'r dasg.

Y newyddion diweddaraf o'r sector laeth gyda Richard Davies, a Fiona Phillips o Glwb Ffermwyr Ifanc Pen-y-bont, a Llysgenhades CFFI Sir Gaerfyrddin sy'n trafod rhai o'r straeon amaethyddol difyr yn y wasg.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 7 Gorff 2024 07:00

Darllediad

  • Sul 7 Gorff 2024 07:00