Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar BBC iPlayer Radio ar hyn o bryd

Rhodri Llywelyn yn cyflwyno

Trin a thrafod Cymru a'r byd, gan godi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.

Y diweddaraf am ymgyrchu yr Etholiad Cyffredinol yng nghwmni'r sylwebydd gwleidyddol Betsan Powys; ac yn holi'r economegydd Eurfyl ap Gwilym os ydan ni ar drothwy rhyfel masnachol rhyngwladol?

Wedi blynyddoedd o ddilorni cyrsiau Astudiaethau'r Cyfryngau, mae adroddiad diweddar yn datgan fod iddynt werth academaidd. Yr Uwch Ddarlithydd Dyfrig Jones o Adran Astudiaethau'r Cyfryngau a Chynhyrchu ym Mhrifysgol Bangor sy'n trafod, ynghyd â Beca Dalis sydd ar fin dilyn cwrs meistr mewn Newyddiaduraeth Darlledu.

Y sylwebydd gwleidyddol Hywel Williams sy'n sôn am arwerthiant arbennig yn Sotheby's, Llundain, ble mae modd cynnig am ddyddiadur Christine Keeler, gafodd ei sgwennu tra'r oedd hi yn y carchar.

Ac ymweld â'r meysydd chwarae yng nghwmni'r panel chwaraeon, sef Lowri Wynn, Gareth Roberts ac Ian Mitchelmore.

1 awr

Darllediad diwethaf

Llun 24 Meh 2024 13:00

Darllediad

  • Llun 24 Meh 2024 13:00