Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar BBC iPlayer Radio ar hyn o bryd

Dewi Llwyd yn cyflwyno

Trin a thrafod Cymru a'r byd, gan godi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.

Ddeufis ers iddo ddod yn Brif Weinidog Cymru mae hi wedi bod yn wythnos gythryblus arall i lywodraeth Vaughan Gething - a'r sylwebydd Theo Davies Lewis fydd yn pwyso a mesur. Hefyd y sylwebydd ar faterion Ewropeaidd, Mared Gwyn, fydd yn trafod twf yr adain dde eithafol yn Yr Almaen.

Mabli Jones o Social Change Lab sy'n ymchwilio i brotestiadau, gan asesu pa mor effeithiol yw'r ymgyrchoedd?

Mae poblogrwydd Gwyddbwyll ar gynnydd, a'r cyflwynydd Siân Lloyd sy'n sôn pam ei bod hi wth ei bodd yn chwarae'r gêm.

Ac mi awn ni i'r meysydd chwarae yng nghwmni Nicky John, Gwion Samson a'r gohebydd chwaraeon Cennydd Davies.

1 awr

Darllediad diwethaf

Gwen 17 Mai 2024 13:00

Darllediad

  • Gwen 17 Mai 2024 13:00