Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar BBC iPlayer Radio ar hyn o bryd

Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2024

Cyhoeddi rhestr fer 4 categori Llyfr y Flwyddyn 2024 a chwmni y beirniaid sydd wedi bod yn darllen a didoli. A look at the arts scene in Wales and beyond, presented by Ffion Dafis.

Mewn cyd-weithrediad â Llenyddiaeth Cymru ar y rhaglen heddiw mae Ffion Dafis yn cyhoeddi rhestr fer pedwar categori yng nghystadleuaeth 'Llyfr y Flwyddyn 2024', sef rhestr fer categorïau Ffuglen, Ffeithiol Greadigol, Barddoniaeth, Phlant a Pobol Ifanc.

Yn ogystal â chyhoeddi y tri sydd wedi dod i'r brig yn y categorïau hyn, mae Ffion hefyd yn cael cwmni y pedwar beirniaid sydd wedi bod yn darllen a didoli yn ystod y misoedd diwethaf, sef Rhiannon Marks, Nici Beech, Hanna Jarman a Tudur Dylan Jones.

Mae Ffion hefyd yn cael cwmni yr actores a'r trefnydd priodasau Lowri Steffan sydd wedi bod y gweld cynhyrchiad diweddaraf Theatr Genedlaethol Cymru 'Parti Priodas'.

Digon o drafod difyr felly yn ystod y ddwy awr heb son am gerddoriaeth amrywiol sydd yn adlewyrchu'r wythnos yn gelfyddydol.

1 awr, 58 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 12 Mai 2024 14:00

Rhagor o benodau

Blaenorol

Nesaf

Gweld holl benodau Ffion Dafis

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Lo-fi Jones

    Y Wennol

  • Edward H Dafis

    Mistar Duw

    • Caneuon Heddwch.
    • SAIN.
    • 5.
  • Melda Lois

    Breuddwyd Brau

    • Recordiau I Ka Ching.
  • Geraint Løvgreen A'r Enw Da

    Mae'r Haul Wedi Dod

    • Mae'r Haul Wedi Dod.
    • Sain Recordiau Cyf.
  • Bwncath

    Y Gwerinwr

    • Recordiau Sain.
  • Steve Eaves

    Y Ferch yn y Blue Sky Cafe

    • Sain.

Darllediad

  • Sul 12 Mai 2024 14:00