Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar BBC iPlayer Radio ar hyn o bryd

Cymorth Cristnogol yn helpu ffermwyr Affrica

Mari McNeill sy'n sôn sut y mae apêl Cymorth Cristnogol eleni yn helpu ffermwyr Burundi. Mari McNeill from Christian Aid talks about how this year's appeal helps farmers in Burundi.

Pennaeth Cymorth Cristnogol Cymru, Mari McNeill sy'n sôn sut y mae apêl Wythnos Cymorth Cristnogol eleni yn helpu ffermwyr Burundi yn Affrica.

Hefyd, ar Benwythnos Cenedlaethol Melinau, John Dilwyn Williams ac Adrian Priest sy'n sgwrsio am Felin Rhyd Hir yn Efailnewydd ger Pwllheli - melin sy'n agor ei drysau i'r cyhoedd am y tro cyntaf y penwythnos hwn.

Mae'n ddeng mlynedd ers i dafarn y Glan Llyn a'r siop yng Nghlawddnewydd ger Rhuthun gael eu prynu, ac Eryl Williams sy'n sôn am eu pwysigrwydd i'r ardal gyfan.

Glesni Phillips o Hybu Cig Cymru â'r newyddion diweddaraf o'r martiau anifeiliaid, ac Ellen Llewellyn o dîm cynhyrchu rhaglen Ffermio ar S4C sy'n adolygu'r wasg.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 12 Mai 2024 07:00

Darllediad

  • Sul 12 Mai 2024 07:00