
Gwobr Lluniadu Kyffin Williams 2024
Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts scene in Wales and beyond, presented by Ffion Dafis.
Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt.
Yr actor Dafydd Emyr sy'n sgwrsio am ei ran diweddar yng nghynhyrchiad Theatr Clwyd a Theatr y Torch, sef y ddrama lwyfan 'Kill Thy Neighbour'.
Iola Ynyr ac Elena Thomas sy'n trafod prosiect 'Jones y Ddawns', tra bod y sylwebydd celfyddydol Elinor Gwynn yn ymweld â'r crochennydd Erin Lloyd yn ei chartref yng Nghyffylliog yn ogystal â'i harddangosfa ym Mhlas Brondanw, Llanfrothen.
Ymweliad Elinor Gwynn ag Oriel Môn i drafod gwaith buddugol cystadleuaeth 'Gwobr Lluniadu Kyffin Williams 2024', a sgwrs efo un o feirniaid y gystadleuaeth eleni, Eleri Mills.
Cynhyrchiad Theatr Na nÓg sy'n mynd â sylw'r adolygydd Lowri Steffan, ac mae Mari Grug yn ymweld â chanolfan greadigol 'Coco a Cwtch' ym Mynydd Cerrig, Cwm Gwendraeth i glywed am hanes sefydlu'r gofod a'r prosiectau sydd ar y gweill yno.
Ac yn ogystal â hyn oll mae holl gerddoriaeth y rhaglen yn adlewyrchu y bwrlwm creadigol yng Nghymru a thu hwnt.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Nesaf
Darllediad
- Sul 14 Ebr 2024 14:00BBC Radio Cymru