Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar BBC iPlayer Radio ar hyn o bryd

Seren Morgan Jones a Mary Lloyd Jones

Mae Ffion Dafis yn cael cwmni dwy artist ac yn ymweld â hwy yn eu cartrefi yn Aberystwyth. A look at the arts scene in Wales and beyond, presented by Ffion Dafis.

Heddiw mae Ffion Dafis yn cael cwmni dwy artist ac yn ymweld â hwy yn eu cartrefi yn Aberystwyth.

Yr artist gyntaf mae Ffion yn sgwrsio gyda hi yw Seren Morgan Jones sy'n creu portreadau lliwgar o ferched gan ddwyn ysbrydoliaeth o hanes Cymru, diwylliant Cymraeg a'r hyn mae hi'n ei gweld o'i chwmpas.

Ac yna i gloi, mae Ffion yn cwrdd â'r artist Mary Lloyd Jones. Yn enedigol o Bontarfynach, Ceredigion mae Mary Lloyd Jones yn un o artistiaid amlycaf Cymru. Yn ystod ei gyrfa mae Mary Lloyd Jones wedi cynnal dros 50 o arddangosfeydd ar hyd a lled y byd gan gynnwys rhai yn yr Eidal, Efrog Newydd a'r Almaen ac yn parhau i fod yn genhadwr egniol dros y celfyddydau gweledol yng Nghymru.

58 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 11 Awst 2024 14:00

Darllediadau

  • Sul 31 Maw 2024 14:00
  • Sul 11 Awst 2024 14:00