Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar BBC iPlayer Radio ar hyn o bryd

Gwyn Loader yn cyflwyno

Trin a thrafod Cymru a'r byd. Gwyn Loader sy'n codi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.

Beth sy'n gyfrifol am dranc y papurau newydd lleol? Sion Tecwyn ac Emma Meese sy'n trafod y duedd ddiweddar mewn newyddiaduraeth leol.

A hithau'n Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, sgwrs efo'r nain a'r wyres, Beti Puw Richards a Marged Gwenllian, a gofyn ymha ffordd mae agweddau at ferched wedi newid dros y blynyddoedd?

Ac ar drothwy'r gêm rhwng Cymru a Ffrainc ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, mi awn ni i'r meysydd chwarae yng nghwmni Angharad Mair, Kath Morgan a'r gohebydd Heledd Anna.

1 awr

Darllediad diwethaf

Gwen 8 Maw 2024 13:00

Darllediad

  • Gwen 8 Maw 2024 13:00