Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar BBC iPlayer Radio ar hyn o bryd

Jennifer Jones yn cyflwyno

Trafod stad o argyfwng yng Ngwlad yr Iâ ac Elen Ifan a Casi Wyn sy'n trafod a ddylai geiriau caneuon gael eu hystyried fel barddoniaeth. Discussing Wales and the world.

Jennifer Jones yn cyflwyno.

Oes angen cwtogi gwyliau haf ein hysgolion i bum wythnos? Fe glywn ni'r dadleuon o blaid ac yn erbyn y syniad sy'n cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru.

Mae Gwlad yr Iâ wedi datgan stad o argyfwng wrth iddi baratoi ar gyfer ffrwydrad llosgfynydd tebygol ym mhenrhyn Reykjanes. Sgwrs efo Dr Rhian Meara o brifysgol Abertawe, sy’n ymchwilio i echdoriadau Gwlad yr Iâ a'u heffaith ar gymunedau cyfagos.

Siwan Reynolds o gwmni Cwmwl Clyd sy’n ystyried i ba raddau mae’r diwydiant iechyd a lles yn cyflawni ei amcanion wrth i ffigyrau diweddar ddangos twf aruthrol yn y maes.

Ac Elen Ifan a Casi Wyn sy’n trafod os yw geiriau caneuon pop yn gallu cael eu hystyried fel barddoniaeth ar gyfer astudiaethau academaidd?

1 awr

Darllediad diwethaf

Maw 21 Tach 2023 13:00

Darllediad

  • Maw 21 Tach 2023 13:00