Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar BBC iPlayer Radio ar hyn o bryd

Catrin Haf Jones yn cyflwyno

Trin a thrafod Cymru a'r byd. Catrin Haf Jones sy'n codi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.

Martin Morgan o ganolfan glustfeinio y BBC sy'n dadansoddi'r diweddaraf yn y Dwyrain Canol, ar ôl cyrchoedd gan fyddin Israel yng ngogledd Gaza dros nos - oedd, medde nhw, yn targedu safleoedd Hamas; a Bethan Kilfoil sy'n trafod ei hymchwil ar sefyllfa'r economi yn Iwerddon gan awgrymu pa ffactorau sy'n gyfrifol am y twf diweddar?

Hefyd, Andrew White o Gronfa Treftadaeth y Loteri sy'n sôn am y gwaith o adfer coetiroedd yng Nghymru, a'r nawdd sydd ar gael ar gyfer eu diogelu a'r gyfer y dyfodol; a Casia Wiliam sy'n trafod poblogrwydd llyfrau llafar wrth i blatfform ffrydio Spotify eu hychwanegu fel rhan o’u gwasanaeth.

1 awr

Darllediad diwethaf

Iau 26 Hyd 2023 13:00

Darllediad

  • Iau 26 Hyd 2023 13:00