
15/10/2023
Jane Blank a ddysgodd Gymraeg, sy’n ymchwilio i hanes yr iaith yn ei theulu.
Novelist Jane Blank and her quest to restore Welsh as her family’s mother tongue.
Mae’r awdur Jane Blank sydd wedi dysgu Cymraeg yn parhau gyda’i hymchwiliad i hanes yr iaith yn ei theulu.
Mae’n dechrau gyda pherthynas arbennig adewodd dlodi’r teulu a chaledi’r diwydiant plwm yng ngogledd Ngheredigion a dod yn brifathro Coleg yr Iesu yn Rhydychen.
Clywn am fagwraeth Jane yn Sheffield, lle collodd Jane y cyfle i siarad Cymraeg fel mamiaith a’i phenderfyniad i adfer yr iaith i’r genhedlaeth nesaf.
Ewn gyda hi a’r teulu i’r Eisteddfod Genedlaethol ym Mhen Llŷn. Yn y gorffennol roedd Jane ar gyrion y diwylliant Cymraeg ond erbyn hyn mae hi a’r teulu cyfan yn gallu mwynhau’r bwrlwm ar y Maes yn ei lawnder.
Wrth gloi, bydd Jane yn edrych ymlaen at y dyfodol ac yn holi a lwyddodd i ddiogelu’r Gymraeg i’r genhedlaeth nesaf?
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Sul 15 Hyd 2023 16:00BBC Radio Cymru & BBC Radio Cymru 2