Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar BBC iPlayer Radio ar hyn o bryd

Sir Frycheiniog

Archif, atgof a chân yng nghwmni John Hardy wrth iddo grwydro Sir Frycheiniog. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy as he visits Brecknockshire.

Cyfle i glywed acen braf Sir Frycheiniog gan Agnes Jones o Lanbedr ger Llangynidr. Daw'r clip o gasgliad TJ Morgan a fu'n crwydro Cymru cyn yr Ail Ryfel Byd yn casglu tafodieithoedd.

Tarddiad yr enw 'Storey Arms' gan Malcolm Llywelyn.

Jon Gower sy'n sôn am Lyn Syfaddan a'r cysylltiad cynnar rhwng Cymru ac Iwerddon.

Hanes boddi pentref Ynys y Felin yn 1926 - bu teulu Dafydd Gwilym Tawelfryn Jones, neu Wil y Peiriant, yn helpu gyda'r gwaith o adeiladu'r argae.

Olwen Samuel sy'n cofio am daith go arbennig mewn car am y tro cyntaf.

Huw Williams yn cofio am gerddorion Sir Frycheiniog, gan gynnwys David Jenkins, D. Christmas Williams a Daniel Protheroe.

Beti George yn holi Ceinwen Davies, Glasfryn, Llangammarch, sy'n cofio gwagio'r Epynt yn y 1940au.

Rhian Parry fu'n ymweld â thref Llanwrtyd ym 1993 i holi Bet Richards ac Aneurin Davies am ffynhonnau llesol y dref farchnad.

Mae’r Parchedig Tom Evans yn mynd adre i Drecastell ac yn cwrdd â hen ffrind, Meredith Jones, sydd yn mynd ag ef i Gapel Saron, a'r ddau yn trafod y beirdd lleol.

A hanes George Everest gan Llion Iwan.

56 o funudau

Darllediad diwethaf

Llun 8 Mai 2023 18:00

Rhagor o benodau

Blaenorol

Nesaf

Gweld holl benodau Cofio

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Niamh Ní Charra

    Cailleach An Airgid

    • Festival Folkcelta de Ponte da Barca Vol. 2.
    • Banzé.
    • 1.

Darllediadau

  • Sul 7 Mai 2023 13:00
  • Llun 8 Mai 2023 18:00