Main content

Mannau dirgel Betws y Coed

Cylchdaith aiff a chi ar hyd ffordd Rufeinig i ymweld â man cyfansoddi un o'n emyn donau enwocaf, drwy bentref adfeiliedig, at lyn lle y cewch chi olygfeydd godidog o fynyddoedd Eryri.

  • Hyd y daith: tua 6 milltir

    Rhannau gweddol serth ar y dechrau a'r diwedd, ond yn bennaf cerdded mwy gwastad ar hyd ffyrdd coedwig a llwybrau all fod yn fwdlyd a chorsiog mewn mannau.

  • Amser: 3 – 4 awr

  • Anghenion pwysig
    Esgidiau cerdded, dillad dal dŵr, bwyd a diod, Map AO OL17 Yr Wyddfa.

  • Parcio
    Mae meysydd parcio talu ym Metws y Coed a digon o lefydd ochr stryd. Bydd angen cerdded i fyny drwy'r pentref, i gyfeiriad Capel Curig, i'r man cychwyn.

  • Man cychwyn – cyfeirnod grid 779,568 ym mhen gorllewinol Betws y Coed, wrth i’r A5 ddechrau dringo drwy’r coed am Y Rhaeadr Ewynnol - wrth geg y ffordd lle mae’r man cychwyn mae arwydd ‘Anaddas i fodur’


Rydych yn dechrau'ch taith yn y rhan o'r Betws a elwir yn Pentre Du. Mae'r enw’n ganlyniad i natur dywyll y graig a gloddid yn Chwarel Hafodlas gerllaw, a'r ffaith nad yw’n gweld yr haul rhwng Medi a Mawrth.

Ym mhen arall Betws y Coed yn ardal Pont Waterloo, sef Pentre Gwyn, mae'r haul i'w weld gydol y flwyddyn.

I Bentre Du yr adleolodd y rhan fwyaf o drigolion cymuned Rhiwddolion, y byddwch yn ymweld â hi ymhellach ymlaen, wrth i fywyd yno ddatblygu'n anghynaladwy ganol y ganrif ddiwethaf.



* Ewch i fyny'r ffordd heibio'r arwydd "Anaddas i fodur" (peidiwch a mynd i fyny'r allt i'r dde) ac ymlaen am y giât heibio Fferm Pentre Du ar y chwith - sylwch ar y camdreiglad ar yr arwydd! Rydych bellach yn cerdded ar ffordd Rufeinig Sarn Helen.

-> Y gred ydi ei fod wedi ei enwi ar ôl Elen Luyddog, gwraig Macsen Wledig, a'i adeiladu gan luoedd Agricola oddeutu 78 OC.

Roedd Sarn Helen yn rhedeg ar hyd ochr gorllewinol Cymru o gaer Canovium (Caerhun) yn y gogledd hyd gaer Maridunum (Caerfyrddin) yn y de, gyda'r cymal yma’n cysylltu Caerhun â gwersyll Tomen y Mur ger Trawsfynydd.

* Cerddwch i fyny Sarn Helen at yr ail ffordd goedwig, y tu hwnt i'r ddwy giât fetel ar ben yr allt.

Trowch i'r dde ar hyd y ffordd am rhyw gan llath. Yn y coetir ar y chwith mae arwydd yn nodi enwau Tŷ Capel, Tŷ Coch a Tŷ Uchaf ar ddechrau llwybr drwy'r coed.

Dilynwch y llwybr hwn, ac fe ddewch yn y man at yr adeilad arferai wasanaethu fel capel ac ysgol ar gyfer cymuned Rhiwddolion (771,559).

-> Codwyd yr adeilad ym 1869, a'r Prifathro cyntaf oedd Griffith H. Jones (1849-1919), sef Gutyn Arfon, y cyfansoddwr emyn donau. Yma, yn yr adeilad hwn, y cyfansoddwyd y dôn "Llef", y’i cysylltir yn bennaf â'r geiriau:

'O! Iesu mawr, rho d'anian bur
I eiddil gwan mewn anial dir,
I'w nerthu drwy’r holl rwystrau sy
Ar ddyrys daith i'r Ganaan fry.'

Sefydlodd Gytun Arfon undeb gorawl ym Metws y Coed, arweiniodd seindorf pres y pentref, trefnodd sawl gŵyl gerddorol, a fo oedd yn gyfrifol am sefydlu eisteddfod flynyddol y Betws oroesodd hyd ddechrau'r Ail Ryfel Byd ym 1939.

Mae capel Rhiwddolion yn nodedig hefyd fel y capel cyntaf yn yr hen Sir Gaernarfon i ganiatáu i offeryn cerdd gael ei ddefnyddio o fewn ei furiau, sef harmoniwm gafodd ei gludo i fyny Sarn Helen gan geffyl a throl. Fe gaeodd y capel ym 1956 a bellach mae'n fwthyn gwyliau.



* Ewch yn eich blaen heibio'r capel, i'r dde heibio adfeilion Tŷ Isaf ac i fyny'r trac. Ar ben yr allt fe ddewch at fwthyn Tŷ Coch.

-> Y tu ôl i Tŷ Coch mae bwthyn gwyngalchog Tŷ Uchaf, sef y tŷ olaf yng nghymuned Rhiwddolion i fod â thrigolion parhaol yn byw ynddo - fe adawodd y teulu olaf ym 1974. Bellach mae'r ddau fwthyn, fel y capel, yn fythynnod gwyliau sy'n eiddo i'r Landmark Trust.



* Wrth dalcen Tŷ Coch croeswch y bont garreg dros yr afon ac yna'r gamfa i'r cae. Ewch i fyny i'r chwith dros y bryncyn, cadwch i'r chwith heibio Bryn Derw ac i lawr at adfeilion nifer o dai. Dyma oedd canolbwynt cymuned Rhiwddolion.

-> Ar ei hanterth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg credir fod hyd at gant o drigolion yn byw yma, mewn tyddynnod gwasgaredig a thai oedd yn gartrefi i chwarelwyr a'u teuluoedd. Byddai rhai chwarelwyr yn gadael y pentref tua phump y bore i gerdded ar hyd Sarn Helen i lawr i orsaf drenau Pont y Pant, er mwyn bod yn eu gwaith yn y chwareli ym Mlaenau Ffestiniog erbyn saith y bore.

Roedd eraill yn gweithio yn y chwareli mwy lleol, e.e. Chwarel Rhiwddolion sy'n y goedwig y tu ôl i Tŷ Uchaf, Chwarel Hafodlas ar gyrion Pentre Du, a'r amryfal chwareli bychain ym Mhenmachno a Dolwyddelan.

Dechreuodd Rhiwddolion edwino yn y 1930'au law yn llaw â thranc y chwareli, yn arbennig felly chwareli mawr Blaenau Ffestiniog. Mudodd y trigolion i lawr i Betws y Coed a Llanrwst, a rhai ymhellach i lawr Dyffryn Conwy i'r tywydd a chyfleoedd gwaith gwell yn Llandudno a Bae Colwyn.

Wrth gerdded heibio'r tai sylwch bod un adeilad â set o risiau yn arwain ohono. Dyma lle'r oedd siop y pentref, fyddai, yn ogystal â gwerthu nwyddau a gludid i fyny Sarn Helen, yn gwerthu nwyddau a gynhyrchid ar y tyddynnod lleol.



* Ewch yn eich blaen heibio'r adfeilion ac fe ddewch unwaith eto at Sarn Helen. O droi i'r dde gallwch gerdded ymlaen i Bont y Pant, taith o tua awr, a dal y trên yn ôl i Betws y Coed. Fodd bynnag, trowch i’r chwith yma, ewch drwy'r giât, ac ar ben yr allt fe welwch fynedfa i gae ar y dde. Ewch dros y gamfa a dilynwch y trac garw i fyny at y goedwig. Ar ymyl y goedwig fe welwch gamfa arall - croeswch hwn i mewn i ran o Goedwig Gwydir.

-> Yn sgîl prinder pren a choed ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf cyflwynwyd Deddf Coedwigaeth 1919 arweiniodd at sefydlu’r Comisiwn Coedwigaeth.

Plannwyd y goeden bîn gyntaf yng Nghoedwig Gwydir ym 1921 - cyn hynny tir amaethu agored oedd yma, yn cynnal tyddynnod amrywiol, ynghyd ag ambell gasgliad o goed collddail.

Heddiw prin iawn yw’r derw, ynn, bedw ac ati, ac fe welwch adfeilion nifer o dyddynnod yn y goedwig yn ystod eich taith.

Hyd yn gymharol ddiweddar roedd rhai o'r genhedlaeth hŷn ym Metws y Coed, arferai fyw yn Rhiwddolion, neu yn ddisgynyddion cyn drigolion, yn wrthwynebus i'r Comisiwn Coedwigaeth gan eu bod o'r farn bod elfen o ‘glirio tir’ wedi digwydd gan y llywodraeth yn Llundain (gan ei gymharu â'r clirio tiroedd yn Yr Alban yn y ddeunawfed ganrif).

Ym 1937 dynodwyd Coedwig Gwydir yn Barc Coedwig Cenedlaethol, a heddiw mae’r goedwig yn gorchuddio 14,900 erw dros 23 milltir sgwâr. Mae iddi bron i 150 milltir o ffyrdd coedwig a ddefnyddir gan loriau coed a cheir rali fel ei gilydd. Gan bod tyfiant y coed yn sylweddol, mae datgoedwigo yn gyffredin iawn, felly bydd angen ichi gymryd gofal weddill y daith.



* Dilynwch y llwybr dros garped o fwsog drwy'r goedwig, yna allan ohoni eto. Pasiwch adfail tyddyn ar y dde ac ymhen dim fe ddewch at ffordd goedwig. Trowch i'r chwith a dilyn y ffordd heibio i fferm Pant yr Hyddod sy’n y cae ar y chwith.

Ar ddiwedd y ffordd cewch olygfeydd da o Ddyffryn Conwy o'ch blaen. Trowch i’r dde yn y gyffordd. Cadwch i'r chwith yn y gyffordd ar waelod yr allt. Dilynwch y ffordd yma am tua hanner milltir hyd nes cyrraedd y maes parcio ar y dde ar gyfer Llyn Elsi.

-> Yn wreiddiol roedd dau lyn bach yma, Llyn Rhisgog a Llyn Enoc. Ym 1914, gyda chaniatâd yr Ail Arglwydd Ancaster, Aelod Seneddol Toriaidd Horncastle yn Swydd Lincoln a thirfeddiannwr mawr yn ardal Betws y Coed, adeiladwyd argae 20 troedfedd i greu un llyn mwy 30 erw o faint.

Gwnaed hyn er mwyn darparu dŵr yfed ar gyfer Betws y Coed - mae'r gwaith dŵr yn y pentref, lle mae'r bibell o'r llyn yn cyrraedd yr adnoddau puro, y tu cefn i'r feddygfa ym Mhentre Du.


* Wedi cerdded o'r maes parcio a chyrraedd yr argae mae dau ddewis gennych chi:

  1. Ewch i'r dde dros y bompren ac i fyny’r llwybr, ac mae modd ichi gerdded yr holl ffordd o gwmpas y llyn - mae’n gylchdaith braf ar lwybrau pwrpasol a ffyrdd y goedwig, ac o'i gerdded yn hamddenol fe ddylai gymryd tua awr.


  2. Ewch i'r chwith ac i fyny at y gofgolofn a'r fainc sy’n edrych dros y llyn. Yma rydych dros saith gant troedfedd uwchlaw lefel y môr, efo'r golygfeydd ar ddiwrnod clir yn odidog - mae’n lecyn perffaith ichi gael paned neu ginio.

I'r gorllewin fe welwch, o'r dde i'r chwith, gefnen Y Crimpiau a Chreigiau Gleision ger Capel Curig, ac yna copaon Pen Llithrig y Wrach a Pen yr Helgi Du, a'r Carneddau, Llewelyn a Dafydd y tu hwnt wedyn. I'r de-orllewin saif Moel Siabod, ac yna'n syth o'ch blaen y tu hwnt i ben pellaf Llyn Elsi gwelir Moel Penamnen sydd rhwng Dolwyddelan a Blaenau Ffestiniog, ac yna Ro Lwyd a'r Ro Wen uwchben Penmachno.



* Sefwch â'ch cefn at y llyn a'r gofgolofn o'ch blaen. Dilynwch y llwybr sy’n mynd i'r dde o'r gofgolofn. Arhoswch ar y llwybr hwn wrth iddo groesi dwy ffordd goedwig.

-> Peidiwch a chwilio am, a chael eich temtio i ddilyn y llwybr ar y map sy'n mynd heibio adfail Rhiw-gri (791,555) – mae coel lleol bod ysbryd Rhys ab Hugh, neu Rhys y Ceiliogod (gan ei fod yn trefnu gornestau ymladd ceiliogod yn y ddeunawfed ganrif), yn disgwyl amdanoch yno!

* Yn fuan ar ôl croesi'r ail ffordd goedwig fe ddewch at adfeilion Gartheryr (791,558)ar y chwith.

-> Y cofnod olaf o drigolion yma oedd gweithiwr efo'r Comisiwn Coedwigaeth a’i deulu ym 1926, ond wedi hynny aeth y tyddyn â'i ben iddo. Yn y ddeunawfed ganrif roedd Gartheryr yn adeilad nodedig yng nghymuned Betws y Coed.

Yma, ym 1749, o dan arweiniad Ann Jones, morwyn ar fferm Cwm Dreiniog rhwng Llyn Elsi a Phont y Pant, y dechreuodd criw bychan o Fethodistiaid Calfinaidd gwrdd yn wythnosol, cyn i'r niferoedd gynyddu’n gyflym i'r fath raddau fel bod angen symud i adeilad mwy oedd yn agosach at Betws y Coed, sef Trawsafon.



* Cariwch ymlaen i lawr y llwybr heibio Gartheryr, ond cymerwch ofal gan ei fod yn droellog a chymharol serth mewn mannau, hyd nes cyrraedd y ffordd goedwig. Trowch i'r chwith ac ewch i lawr yr allt. Tua gwaelod yr allt, yn y cae ar yr ochr dde, mae adfeilion Trawsafon.

-> Hwn oedd cartref y saer maen Thomas Thomas, ei wraig, a'u naw o blant, ac yma ym 1797 y sefydlwyd "gorsaf bregethu" yn enw'r Methodistiaid Calfinaidd.

Fel efo Gartheryr fe gynyddodd y niferoedd ymhellach, ac erbyn 1808 roedd angen adeilad mwy i gynnal y gwasanaethau. O ganlyniad adeiladwyd capel Bryn Mawr, sydd i'w weld heddiw ar ochr yr A5, ychydig i fyny’r ffordd o Bont y Pair, yng nghanol y pentref.



* Ymlaen a chi i waelod y ffordd goedwig ac fe ddewch yn ôl i Betws y Coed y tu cefn i Eglwys y Santes Fair.

-> Cynhaliwyd y gwasanaeth cyntaf yma ym 1837 yn yr adeilad a gynlluniwyd gan y penseiri Paley ac Austin o Gaerhirfryn.

Fe’i adeiladwyd ar gost o £5,000 gan y crefftwr lleol Owen Gethin Jones, adeiladodd orsaf reilffordd Betws y Coed hefyd. Y tu mewn i’r eglwys gwelir carreg las lleol, tywodfaen o Ancaster (Swydd Lincoln), tra bo’r fedyddfaen a rhannau o’r pulpud yn garreg dolennog ddu o Gernyw.

Wrth ichi ddod at ddiwedd eich taith gobeithio ichi fwynhau’r olwg amgen yma ar rhai o ragoriaethau Betws y Coed - rydych bellach yn haeddu paned a chacen yn un o gaffis y pentref!

** Taith Bryn Tomos ydy hon. Da ni'n argymell i chi ddefnyddio map OS o'r ardal i gyd fynd gyda'r daith.

** Tydi'r BBC ddim yn cymryd dim cyfrifoldeb dros unrhyw anaf a all ddigwydd yn ystod eich taith. Gwisgwch ddillad ac esgidiau addas bob tro a chofiwch edrych ar ragolygon y tywydd cyn mentro allan.