Rheolau'r Gystadlaeuaeth - Gwed y Gair
Hysbysiad Preifatrwydd
(Diweddariad i’r Hysbysiad Preifatrwydd 25/04/25)
Mae’n bwysig iawn i ni eich bod chi’n ymddiried ynom. Mae hyn yn golygu bod y BBC wedi ymrwymo i warchod preifatrwydd a diogelwch eich data personol. Mae’n bwysig eich bod yn darllen yr hysbysiad hwn er mwyn i chi wybod sut a pham rydym yn defnyddio data personol o'r fath. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn disgrifio sut rydym yn casglu ac yn defnyddio data personol amdanoch chi yn ystod eich perthynas â ni, ac wedi hynny, yn unol â chyfraith diogelu data.
Pam rydym yn gwneud hyn a sut gallwch chi gymryd rhan?
Mae’n bwysig iawn i ni eich bod chi’n ymddiried ynom. Mae hyn yn golygu bod y BBC wedi ymrwymo i warchod preifatrwydd a diogelwch eich data personol. Mae’n bwysig eich bod yn darllen yr hysbysiad hwn er mwyn i chi wybod sut a pham rydym yn defnyddio data personol o'r fath. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn disgrifio sut rydym yn casglu ac yn defnyddio data personol amdanoch chi yn ystod eich perthynas â ni, ac wedi hynny, yn unol â chyfraith diogelu data.
Mae cynulleidfaoedd wrth galon popeth a wnawn yn y BBC. Rydym yn ymroi i ymgysylltu â’n cynulleidfa ac yn gofyn iddi gymryd rhan a chyfrannu mewn amrywiol ffyrdd, gan gynnwys drwy gystadlaethau teleffoni. Rydym yn gweithio gyda Telesgop, cwmni cynhyrchu annibynnol sy’n cynhyrchu rhaglen Ifan Evans.
Bydd gwybodaeth am sut i gymryd rhan yn cael ei hegluro ar yr awyr neu ar-lein, gan gynnwys y rheolau sy’n berthnasol i gystadlaethau penodol.
Os byddwch chi’n ymddangos ar yr awyr, gall hyn olygu bod y rhaglen ar gael ar-lein a/neu ar-alw, a gellir defnyddio’ch cyfraniad eto mewn darllediad yn y dyfodol.
Mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio eich ymddangosiad ar yr awyr (os yw’n berthnasol) at ddibenion hyrwyddo ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol y BBC.
Pa ddata personol fydd y BBC yn ei gasglu a sut byddwn yn ei ddefnyddio?
Bydd y BBC yn casglu ac yn prosesu eich data personol er mwyn gweinyddu’r gystadleuaeth teleffoni; er mwyn cadw cofnod o’r enillwyr at ddibenion cydymffurfio ac archwilio; er mwyn creu cynnwys darlledu; ac er mwyn rhoi’r wobr i’r enillydd.
Data personol
Gan ddibynnu ar natur y gystadleuaeth, efallai y bydd y BBC yn casglu ac yn prosesu’r data personol canlynol amdanoch chi:
• Enw llawn
• Rhif ffôn
• Eich oedran, neu gadarnhad eich bod yn ddigon hen i gymryd rhan
• Recordiad a ddarlledir o’ch llais
• Eich barn, eich atebion i’n cwestiynau a gwybodaeth fywgraffyddol y dymunwch ei rhannu
Efallai y byddwn hefyd yn casglu eich cyfeiriad e-bost neu eich cyfeiriad post os ydych chi’n enillydd er mwyn i ni allu anfon eich gwobr atoch.
Pwy yw’r Rheolydd Data?
Y BBC yw “rheolydd data” eich data personol at ddibenion cynnal y gystadleuaeth hon. Mae hyn yn golygu mai’r BBC fydd yn penderfynu ar gyfer beth y bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio, a sut y bydd yn cael ei brosesu. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, dim ond at y dibenion sydd wedi’u nodi yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn y bydd eich data personol yn cael ei gasglu a’i brosesu. Fel y rheolydd data, mae gan y BBC gyfrifoldeb i gydymffurfio â chyfraith diogelu data, ac i ddangos ei fod yn cydymffurfio â hi.
Mae Telesgop yn cynhyrchu rhaglen Ifan Evans fel rheolydd data ar wahân ar ran y BBC ac yn gweinyddu agweddau ar y gystadleuaeth fel prosesydd data’r BBC.
Y sail gyfreithlon dros brosesu eich data personol
Sail gyfreithlon y BBC ar gyfer prosesu data personol yw ei fod yn gwneud hynny er mwyn cyflawni ei rôl gyhoeddus. Rôl y BBC yw gweithredu er budd y cyhoedd a gwasanaethu pob cynulleidfa gyda chynnwys sy’n hysbysu, yn addysgu ac yn diddanu.
Mae gennym hefyd rwymedigaeth gyfreithiol i brosesu data personol yr enillwyr er mwyn cydymffurfio â rheoliadau cystadlaethau perthnasol.
Rhannu eich data personol
Mae’r BBC yn gweithio gyda’n darparwyr trydydd parti cymeradwy sy’n ein helpu i ddarparu rhai o’n gwasanaethau. Dim ond ar ran y BBC y mae’r partneriaid hyn yn defnyddio eich data personol, ac nid yn annibynnol ar y BBC. Ar gyfer cystadlaethau teleffoni, rydym yn defnyddio llwyfan teleffoni trydydd parti.
Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu data personol â thrydydd parti, os bydd y gyfraith yn mynnu neu’n caniatáu hynny.
Cadw eich data personol
Bydd data personol sydd wedi’i storio ar y llwyfan ffôn, fel rhif ffôn cyswllt ac unrhyw recordiadau o alwadau yn cael eu cadw am 6 mis ac yna’n cael eu dileu.
Bydd data personol eraill gan ymgeiswyr aflwyddiannus yn cael ei gadw tan ddiwedd cystadleuaeth y diwrnod hwnnw.
Rydym yn cadw cofnodion o enillwyr a'r rhai a ddaeth yn ail am ddwy (2) flynedd at ddibenion archwilio a chydymffurfio.
Os byddwch yn ymddangos ar ddarllediad, bydd y rhaglen yn cael ei chadw a’i harchifo am byth gan y BBC.
Bydd eich data personol yn cael ei storio yn y DU a’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.
Eich hawliau a rhagor o wybodaeth
Mae gennych chi hawliau o dan gyfraith diogelu data:
• Gallwch ofyn am gopi o’r data personol mae’r BBC yn ei storio amdanoch chi.
• Mae gennych chi hawl i ofyn i ni gywiro unrhyw ddata personol anghywir neu anghyflawn sydd gennym amdanoch chi.
• Mae gennych chi hawl i ofyn i’r data personol rydym yn ei gasglu amdanoch gael ei ddileu, ond mae cyfyngiadau ac eithriadau i’r hawl hon a allai roi’r hawl i’r BBC wrthod eich cais.
• Mewn rhai amgylchiadau, mae gennych chi hawl i gyfyngu ar brosesu eich data personol neu wrthwynebu prosesu eich data personol.
• Mae gennych chi hawl i ofyn i ni drosglwyddo’r data personol i chi neu i sefydliad arall, mewn rhai amgylchiadau.
Gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data os oes gennych gwestiynau neu os ydych chi am gael gwybod mwy am eich hawliau. Tarwch olwg ar Bolisi Preifatrwydd a Chwcis y BBC yn http://bbc.kongjiang.org/www.bbc.co.uk/privacy.
Os ydych chi’n poeni am y ffordd mae’r BBC wedi delio â’ch data personol, gallwch godi’r pryder gyda’r awdurdod goruchwylio yn y DU, sef Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) https://ico.org.uk/.
Diweddaru'r hysbysiad preifatrwydd hwn
Byddwn yn diwygio’r hysbysiad preifatrwydd os bydd y ffordd rydym yn defnyddio’ch data personol yn newid yn sylweddol.
Telerau ac Amodau
Cystadleuaeth Ffôn Gwed y Gair BBC Radio Cymru 2025
Pwy sy’n gymwys
1. Mae'r gystadleuaeth ar agor i holl breswylwyr y DU, gan gynnwys Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw, heblaw am weithwyr Grŵp y BBC, eu perthnasoedd agos ac unrhyw un sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth.
Sut mae Ymgeisio?
2. Mae modd rhoi cynnig ar y gystadleuaeth drwy ffonio 03703 500 500. Ffonio yw’r unig ffordd o gystadlu. Codir prisiau daearyddol safonol am alwadau o ffonau tŷ a ffonau symudol. Rhaid bod yn 16 oed neu hŷn i gystadlu.
3. Fel arfer, bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal ar raglen Ifan Evans ar BBC Radio Cymru yn ystod yr wythnos (dydd Llun i ddydd Iau) rhwng 1400 a 1700, (ac eithrio pan fydd gofynion golygyddol yn arwain at newid amserlen neu newid mewn cynnwys rhaglenni). I gofrestru, bydd y gwrandawyr yn ateb cwestiwn gwybodaeth gyffredinol yn seiliedig ar y newyddion y diwrnod hwnnw. Bydd y llinellau ar agor rhwng tua 15:45 a 16:15. Caiff y cystadleuwyr eu dewis ar hap gan feddalwedd cynhyrchu rhif ar hap priodol. Yna, byddwn yn cysylltu â’r cystadleuydd sy’n cael ei ddewis a byddant yn sgwrsio â’r cyflwynydd yn fyw ar yr awyr (os nad yw’r BBC yn gallu cysylltu â chystadleuydd, bydd y BBC yn cysylltu â’r cystadleuydd nesaf sy’n gymwys ar hap). Bydd y cyflwynydd yn disgrifio nifer o eiriau, heb ddweud y gair ei hun, a bydd y cystadleuydd yn ceisio dyfalu cynifer â phosibl o eiriau’n gywir o fewn 60 eiliad. Y mwyaf o eiriau mae’r cystadleuydd yn eu dyfalu’n gywir, y mwyaf o wobrau bydd yn ennill.
4. Bydd 4 cystadleuydd dros 4 diwrnod o ddydd Llun i ddydd Iau, ac ar y pedwerydd diwrnod bydd pa bynnag gystadleuydd sydd wedi dyfalu’r mwyaf o eiriau’n gywir dros y pedwar diwrnod yn ennill y wobr arbennig. Os bydd tri neu bedwar cystadleuydd yn gyfartal ar ddiwedd yr wythnos, byddwn yn rhoi rhif i bob i diwrnod, h.y. dydd Llun = 1, dydd Mawrth = 2, dydd Mercher = 3, dydd Iau = 4, yna’n defnyddio’r cynhyrchydd rhif ar hap i ddewis yr enillydd.
5. Caiff y gystadleuaeth ei hennill ar ddiwedd yr wythnos ar ôl i’r pedwar cystadleuydd geisio ateb cynifer o eiriau’n gywir ag y gallant. Bydd y staff cynhyrchu yn rhoi gwybod i'r cyflwynydd fod y llinellau ffôn wedi cau, a bydd y cyflwynydd yn rhoi gwybod i’r gwrandawyr. Efallai y bydd yr enillydd cyffredinol am yr wythnos yn siarad ag Ifan ar yr awyr.
6. Dim ond unwaith y dydd y cewch chi gystadlu, ni fydd unrhyw geisiadau ychwanegol yn cael eu cyfrif. Ni chaniateir i enillwyr rhoi cynnig arall ar gymryd rhan yn y gystadleuaeth am fis.
7. Rhaid i rif ffôn yr ymgeisydd fod yr un rhif â’r ffôn a ddefnyddir i gofrestru. Rhaid i’r ymgeisydd fod yn ymgeisio ar ei ran ei hun. Mae’r BBC yn cadw’r hawl i wahardd unrhyw ymgeisydd nad oedd wedi cofrestru ar ei ffôn ei hun neu ar ei ran ei hun. Gall hyn olygu bod ymgeisydd arall yn cael ei ddewis o blith yr holl ymgeiswyr.
Manylion y wobr
8. Bydd y gwobrau’n amrywio o CDs/DVDs, eitemau cartref eraill, i becyn o ddeunydd hyrwyddo'r rhaglen. Bydd y wobr arbennig yn amrywio o dalebau rhodd gwerth swm penodol i docyn chwaraeon/pecyn penwythnos mewn gwesty. Caiff y wobr ei danfon i'r enillydd drwy’r post.
9. O bryd i’w gilydd, efallai y bydd gan wobr ofyniad o ran oedran. Pan fydd gwobr o’r fath yn cael ei chynnig, nodir hyn yn glir ar yr awyr. Ni fydd unrhyw wrandäwr nad yw’n bodloni’r gofyniad hwn yn gallu cystadlu yn yr achos hwnnw o’r gystadleuaeth. Os yw’r wobr yn cynnwys mynediad i ddigwyddiad, rhaid i’r enillydd gadw at gyfyngiadau oedran y digwyddiad, er enghraifft bod oedolyn 18 oed yn dod gydag ef os oes angen.
10. Os mai tocyn i ddigwyddiad neu becyn gwesty yw’r wobr arbennig, ni fydd y BBC yn talu costau teithio. Os oes gan yr enillydd/enillwyr a/neu eu gwestai (os yw’n berthnasol) unrhyw ofynion o ran iechyd neu hygyrchedd, mae angen datgelu’r rhain i’r BBC cyn cael y wobr. Er mwyn cael profiad llawn o’r wobr sy’n cynnwys profiadau neu ddigwyddiadau â thocynnau, efallai y bydd y BBC, yr hyrwyddwr neu’r lleoliad yn gosod rhywfaint o ofynion o ran diogelwch a/neu Iechyd a Diogelwch. Bydd angen dilyn y rhain cyn profi’r elfennau hynny. Rhaid i’r enillydd a’i westai (os yw’n berthnasol) gydymffurfio hefyd â’r telerau ac amodau a’r polisïau iechyd a diogelwch mewn unrhyw leoliad sy’n gysylltiedig â’r wobr. Rhaid i’r enillydd/enillwyr gadw at gyfyngiadau oedran penodol cyn cymryd rhan yn y gystadleuaeth.
11. Mae’r enillydd/enillwyr yn cytuno i gael eu rhwymo gan delerau trydydd parti sy’n ymwneud â’r digwyddiadau neu’r profiadau perthnasol ac mae’r ymgeiswyr yn cytuno nad yw’r BBC yn gyfrifol am gynnwys y telerau ac amodau neu wefannau trydydd parti hynny. Ni fydd y BBC yn gyfrifol am unrhyw fethiant gan yr enillwyr a/neu westeion (os yw’n berthnasol) i gael mynediad neu ailfynediad i’r digwyddiad oherwydd eu hymddygiad neu eu methiant i fodloni’r gofynion derbyn. Ni fydd y BBC yn gyfrifol am atal neu ganslo digwyddiadau a allai fod yn rhan o’r gwobrau, gan gynnwys drwy gyfyngiadau llywodraethol.
12. Mae penderfyniad y BBC o ran yr enillydd yn derfynol. Ni fydd unrhyw ohebu’n digwydd mewn perthynas â’r gystadleuaeth.
13. Os nad oes modd i’r BBC gysylltu â’r enillydd, mae’n cadw’r hawl i beidio â dyfarnu’r wobr.
14. Mae’r gwobrau fel y nodir ar yr awyr. Nid oes unrhyw opsiwn ariannol yn lle’r wobr ac nid oes modd gwerthu na throsglwyddo’r wobr o dan unrhyw amgylchiadau. Mae’r BBC yn cadw’r hawl i gyfnewid neu ategu at unrhyw elfen o’r wobr. Nid yw’r BBC yn gyfrifol am unrhyw elfen neu newid i’r wobr sydd y tu hwnt i’w reolaeth. Ni all y BBC dderbyn unrhyw gyfrifoldeb dros ansawdd y wobr, nam ar y wobr, na phroblemau yn ymwneud â danfon.
Cyffredinol
15. Rhaid i bob ymgeisydd gytuno i gymryd rhan mewn unrhyw gyhoeddusrwydd rhesymol i’r gystadleuaeth. Bydd enwau a lleoliad bras yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi.
16. Mae’r BBC yn cadw’r hawl (os yw’n credu bod angen) i ganslo, newid neu ddiwygio’r gystadleuaeth ar unrhyw adeg, neu os bydd amgylchiadau sydd y tu hwnt i reolaeth y BBC yn codi.
17. Ystyrir bod ymgeiswyr wedi derbyn y rheolau ac yn cytuno i gael eu rhwymo ganddynt wrth roi cynnig ar y gystadleuaeth hon.
18. Mae’r BBC yn cadw’r hawl i anghymhwyso unrhyw gystadleuydd y mae’n amau ei fod wedi twyllo.
19. Mae’r BBC yn cadw’r hawl i atal cystadleuydd rhag mynd ar yr awyr neu i dynnu cystadleuydd o’r awyr a’i ddiarddel o’r gystadleuaeth ar unrhyw adeg os yw’n arddangos ymddygiad sarhaus, difrïol neu unrhyw fath arall o ymddygiad sy’n anaddas i’w ddarlledu.
20. Ni all y BBC dderbyn unrhyw gyfrifoldeb dros ansawdd y wobr, nam ar y wobr, na phroblemau yn ymwneud â danfon.
21. Ni all y BBC, ei is-gontractwyr, ei is-gwmnïau a/neu asiantaethau dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw fethiant neu ddiffyg technegol nac unrhyw broblem arall a allai olygu nad yw enwebiad yn cael ei gofrestru'n briodol.
22. I’r graddau a ganiateir gan y gyfraith, ni fydd y BBC yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod (boed difrod neu golledion o’r fath yr oedd modd eu rhagweld, yn hysbys neu fel arall) gan gynnwys colled ariannol, niwed i enw da neu siom.
23. Mae’r gystadleuaeth hon yn cyd-fynd â Chod Ymddygiad y BBC ar gyfer Cystadlaethau a Phleidleisio, sydd i'w weld yn
http://bbc.kongjiang.org/www.bbc.co.uk/editorialguidelines/guidelines/appendix2 https://www.bbc.com/editorialguidelines/guidance/code-of-conduct
24. Mae’r BBC yn cadw’r hawl i (i) ddiwygio’r telerau ac amodau hyn; (ii) anghymhwyso unrhyw ymgeisydd sy'n torri'r rheolau, sydd wedi ymddwyn yn dwyllodrus mewn unrhyw ffordd neu'n dwyn anfri ar y BBC; a (iii) anghymhwyso ymgeisydd neu enillydd, tynnu’n ôl neu gyfnewid unrhyw wobr, os bydd unrhyw ymgeisydd neu enillydd ar unrhyw adeg yn ymddwyn yn amhriodol neu’n beryglus (gan gynnwys bod o dan ddylanwad alcohol, sylweddau cemegol neu achosi niwsans, ymysg pethau eraill); (iv) gosod gofynion mynediad ychwanegol, cyfyngiadau neu reolau ychwanegol pe bai’r wobr benodol a gynigir yn gofyn am hynny (gan gynnwys oedran ychwanegol neu ofynion mynediad eraill i ddigwyddiad, neu fynnu bod rhiant neu warcheidwad yn bresennol os yw gwestai’r enillydd dan 18 am ran neu'r cyfan o'r wobr, ymysg pethau eraill);a (v) canslo neu amrywio'r gystadleuaeth ar unrhyw adeg, os y bydd ar unrhyw adeg yn credu bod angen gwneud hynny, neu os bydd amgylchiadau’n codi sydd y tu hwnt i'w reolaeth.
25. Y BBC sy’n rhedeg y gystadleuaeth hon. Cyfraith Cymru a Lloegr sy’n berthnasol i'r hysbysiad a’r telerau hyn.