« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Syched a ffrwd

Categorïau:

Glyn Evans | 11:23, Dydd Gwener, 30 Mawrth 2012

Hyd yn oed yn ystod wythnos o giwio a sychedu am betrol fu dim pall ar y ffrwd geiriau. A dyma ddetholiad o ambell i beth a ddywedwyd.

 

Y detholiad olaf gen i ar gyfer y blog hwn gan mai heddiw yw diwrnod olaf fy nhymor  presennol gyda  BBC Cymru. Ac mewn sefyllfa felly dim ond un peth sydd i’w ddweud. Ie, fy nyfyniad personol i’r wythnos hon ydi, “Ffarwel” – ond dyma beth oedd gan bobol eraill i’w ddweud:

  • Ha Bach Dewi – Enw Twm Morys yn ‘Y Cymro’ ar y tywydd braf presennol sy’n cyfateb i Haf Bach Mihangel ddiwedd y flwyddyn.

 

  • Mae yna bobl wedi bod yn prynu mewn panig drwy’r dydd – gweithiwr mewn gorsaf betrol Shell yn siarad â’r ‘Daily Post’ ddydd Mawrth.

 

  • Diolch byth am Facebook a Twitter, yn ôl fel mae prisiau petrol yn mynd efallai na fyddwn ni’n gweld ein gilydd byth eto – Cyfranwr  Twitter yn cael ei ddyfynnu yn y ‘Daily Post’.

 

  • Mae’r Gymraeg yma o hyd; dylid ymfalchïo yn fawr yn hynny a’r twf y mae’n ei brofi . . . ond nid oes lle i laesu dwylo; mae her enfawr o hyd i sicrhau lle canolog iddi ym mywyd y genedl – Meirion Prys Jones, Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg, bwrdd sy’n cael ei ddiddymu’n swyddogol yfory.

 

  • Gyrrwch y gair ffantastig ar ffo o dir yr iaith Gymraeg – Dilys Rees, Solihull, yn galw am Gymraeg bur ar y teledu mewn lythyr yn ‘Y Cymro’ heddiw.

 

  • Gair newydd i mi. Brecinio. Ond mae i’w gael yn Ninbych y Sadwrn hwn rhwng 10. 30 ac 1.00 [i] godi arian at yr Eisteddfod – Madog Mwyn yn ‘Y Cymro’ wedi gwirioni efo ‘brunch’ steddfodol Cymraeg.

 

  • Yn fy marn i does dim dewis arall ond dedfryd o garchar ar unwaith. Pan ddisgynnodd Muamba, nid y byd pêl-droed yn unig oedd yn gweddïo drosto; roedd pawb yn gweddïo am ei fywyd – Y Barnwr John Charles yn dedfrydu myfyriwr 21 oed i 56 diwrnod o garchar am gyhoeddi sylwadau ffiaidd ar Twitter.  https://bbc.kongjiang.org/www.bbc.co.uk/newyddion/17517990

 

  • Mae Cymru yn hen wlad ond yn ddemocratiaeth ifanc – Carwyn Jones AC y Prif Weinidog yn ystod trafodaeth ar gael trefn gyfreithiol ar wahân i Gymru. https://bbc.kongjiang.org/www.bbc.co.uk/newyddion/17516410

 

  • Mae rhai yn meddwl, oherwydd y gall mwyafrif pobl Blaenau Ffestiniog [er enghraifft] siarad Cymraeg a’u bod yn gwybod am  y traddodiad a’r diwylliant Cymraeg y byddan nhw yn wahanol i bobl yng Nghwm Rhondda lle siaredir Saesneg yn bennaf. Ond dydy nhw ddim yn wahanol ac felly, pa bynnag iaith ydych chi’n ei siarad, yr ydych  ym ymwneud ag un achos cyffredin – Yr Arglwydd Dafydd Wigley yn y ‘Wales on Sunday’.

 

  • Mae 'na broblem wrth gymryd yn ganiataol mai rhywun arall sy'n datrys problemau – Archesgob Caergaint, Rowan Williams yn trafod gor ddibyniaeth pobl ar wasanaethau lles.   https://bbc.kongjiang.org/www.bbc.co.uk/newyddion/17513797

 

  • Yno, eisteddai dyn bron i 52 oed yn edrych ddeng mlynedd yn hynach wedi ei wisgo mewn minc du a cholur trwm [ar ei wyneb ] dan helmed o wallt du bits  sy’n moeli’n ysol ac  yn adrodd yn fawreddog farddoniaeth syrffedus – Disgrifiad yr actor Frank Langella, yn ei hunangofiant,  o Richard Burton a ddisgrifiodd fel “crashing bore”.

 

  • Mewn cymanfa blant yr oeddem yn canu’r emyn sy’n sôn am fore oes. Gan gyffelybu oes i ddiwrnod dywedais eu bod nhw ym more’u hoes. “Pa adeg o’r dydd yw hi arna i?” gofynnais a dyma fachgen yn codi’i law ac yn dweud, “Tua amser swper” – Rhys Jones  mewn dyfyniad yn ‘Y Goleuad’ o’i hunangofiant, ‘Fel Hyn yr Oedd Hi’.

 

  • Mae’n mynd i fod yn anodd i mi ddod o hyd i ferch arall a chael perthynas – Gavin Henson yn y ‘Wales on Sunday’ yn wynebu bywyd wedi Charlotte Church  a’r rhaglen deledu ‘The Batchelor’.

 

 

  • Rhaid i ni fod yn barod i addasu neu far war ein traed – Gwyn ‘Denzil’ Elfyn yn cefnogi defnyddio technoleg fodern i eangu apêl Cristnogaeth. Yr oedd yn cael ei holi yn y cylchgrawn ‘Cristion’, rhifyn Mawrth / Ebrill 2012.

 

  • Y wers bwysicaf i’w dysgu yw pa mor hawdd yw hi i’r rhai sy’n herio’r drefn droi yn rhai sy’n fodlon cynnal y drefn, a gwneud hynny’n ddi-drafferth iawn – Lyn Lewis Dafis yn ‘Cristion’, rhifyn Mawrth / Ebrill 2012.

 

  • Mae gan Gristnogion lwybr syml ac effeithiol i ddangos eu gwrthwynebiad i fasnachu ar y Sul, sef peidio siopa eu hunain – Y Parchedig John Pritchard  golygydd ‘Y Pedair Tudaen Gydenwadol’ yn y  papurau enwadol.

 

  • Fe allai hyn fod yn beth da i’r economi. Yr hyn y mae pobl yn ei anghofio yw  fod noethlymunwyr (naturists), fel ymwelwyr eraill, yn dod gydag arian yn eu pocedi i’w gwario mewn siopau lleol, lleoedd bwyta a meysydd parcio ger y traethau – Andrew Welch, cyfarwyddwr masnachol ‘British Naturism’ yn sgil  y sôn am neilltuo rhan o draeth Niwbwrch , Ynys Môn, ar gyfer noethion.

 

  • Yr oeddwn i bron yn llefain yr oeddwn i mor hapus – Shannon Underhill  y disgynnodd parot coll y teulu yn annisgwyl ar ei hysgwydd yn iard yr  ysgol yn Llangewydd.

 

  • Mae ganddo gariad a dydw i ddim yn barod. Dydw i ddim yn barod am ddim o hynna eto. Yr ydw i’n mynd i ganolbwyntio ar y dawnsio – Katherine Jenkins yn gwadu ei bod yn mynd Mark Ballas ei phartner dawns ar y gyfres Americanaidd, ‘Dancing With the Stars’.

 

  • Adam, Leanne a baw ci . . . – pennawd erthygl gan Gwilym Owen yn ‘Golwg’ ddoe.

 

  • Mae llyfrau yn rhoi rhwydd hynt i blant fod yn anturiaethwyr bach, er mwyn darganfod eu hunain a’r byd – Jacqueline Wilson, awdures fydd yn cymryd rhan yn yr ŵyl lenyddiaeth gyntaf i blant yng Nghaerdydd fis Mawrth 2013.

 

  • Yr wyf yn cael yr ymdeimlad o fwy o homoffobia yn yr eglwys nag a deimlais ers amser maith – Y Parchedig Andrew Morton o Langybi, Sir Fynwy,  sy’n gadael yr eglwys wladol oherwydd anghydweld ynglŷn â phriodasau hoyw.

 

  • Rydym wedi bod yn monitro'r dirywiad ac yn annog pobl i helpu drudwyod – Ian Johnstone, Uwch Wyddonydd Cadwraeth yr RSPB, yn gofidio am leihad yn nifer drudwyod.   https://bbc.kongjiang.org/www.bbc.co.uk/newyddion/17548640

 

  • Mi allai ddod yn well ar wneud popeth – George North, ddydd Iau yn y ‘Western Mail’ a ddywedodd ei bod yn codi ofn arnoch dychmygu sut un fydd o ymhen pum mlynedd ac yntau ond yn 19 oed yn awr.

 

  • Does gennym ni ddim ofn neb – Adrain Cieslewitz yn mynegi ei obaith ynglŷn â gobeithion tîm pêl-droed Wrecsam.

 

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.