Cofio Heddychwr
Y mae hi eleni yn ddau ganmlwyddiant geni Henry Richard - gŵr o Dregaron oedd yn cael ei adnabod fel "yr Apostol Heddwch".
Bosib mai chydig sy'n gwybod am ei gyfraniad erbyn heddiw ond yr oedd yn Gymro o bwys a da gweld bod llyfr amdano yn cael ei gyhoedd gan Gwyn Griffiths.

Mae hynny’n syndod o gofio pa mor gyfoes a pherthnasol i heddiw oedd ei ar bwnc heddwch a rhyfel a’i safbwynt hefyd ar Gymru a’r Gymraeg.
Yn ei ddydd ymysododd yn chwyrn ar Y Llyfrau Gleision a’u brad ac yn ei Essays and Letters of Wales (1866) ymrôdd i addysgu’r Saeson amdanom ac yn sgil hynny ennyn balchder a hyder y Cymry ynddynt eu hunain.
“Yn ôl yr Archesgob A G Williams ni fu gan un arweinydd gwleidyddol yng Nghymru erioed y fath ddylanwad dwfn a diwrthwynebiad ymysg Anghydffurfwyr,” meddai Gwyn.
“Cyn ei ethol ef yn AS dros Ferthyr ac Aberdâr ym 1868, carfan ddiwerth fu aelodau seneddol Cymru ond trawsnewidiodd Henry Richard y cyfan. Gwyntyllwyd materion Cymreig am y tro cyntaf mewn cof ar lawr Tŷ’r Cyffredin,” meddai.
Yr oedd ei heddychiaeth a’i Gymreictod ymhleth neu’n ddwy ochr o’r un geiniog. Yn ôl Gwyn, “Bod yn Gymro a’i dysgodd i gasáu natur ryfelgar y Saeson.”
Ond daeth hefyd dan ddylanwad heddychwyr radicalaidd o Loegr hefyd fel gweinidog Capel Cynulleidfaol Seisnig Marlborough yn yr Old Kent Road.
Er a chust arweinwyr rhyngwladol dysgodd hefyd nad digon apelio’n uniongyrchol at arweinwyr y cenhedloedd heb ymgyrchu hefyd i lunio barn gyhoeddus i ddwyn pwysau ar Lywodraethau.
Pan yn Ysgrifennydd Cyffredinol y Gymdeithas Heddwch trefnodd gyda’r Americanwr Elihu Burritt gyfres o gynadleddau heddwch ar gyfandir Ewrop - ym Mrwsel, ym Mharis ac yn Frankfurt lle’r aeth 500 o Brydain yn unig, yn eu plith Samuel Roberts (SR Llanbrynmair) a sgrifennodd am gyfraniad Henry Richard yn Y Cronicl, “Byddai yn hoff gennym iddo gael drws agored drwy ryw ran o Gymru i sefyll a lleisio yn y Senedd o blaid Heddwch.”
Ym 1850 ymddiswyddodd o’r weinidogaeth gan gyhoeddi fod dadlau achos “tangnefedd ar y ddaear” cyn bwysiced â phregethu am Dywysog Tangnefedd ar y Sul.
Er gwaethaf holl jingoistiaeth y cyfnod taranosdd yn erbyn Rhyfel y Crimea a phob rhyfel arall a dadleuodd yn llwyddiannus mewn cynhadledd ym Mharis yn 1856 dros gynnwys yn y cytundeb heddwch gymal yn galw am greu trefniant cyflafareddu rhwng cenhedloedd.
“Yr oedd yn ddatganiad o anghymeradwyaeth o ryfel a osododd gynsail pwysig yn arbennig i sefydlu Tribiwnlys yr Hâg ym 1899,” meddai Gwyn.
Ym 1873 llwyddodd, er gwaethaf gwrthwynebiad y Prif Weinidog Gladstone i gael Tŷ’r Cyffredin i gymeradwyo cynnig: “Fod Anerchiad gystyngedig i’w gyflwyno i’w Mawrhydi yn erfyn arni orchymyn i’r Ysgrifennydd Cartref ymgynghori â’r Galluoedd Tramor gyda’r amcan o gyflwyno gwelliannau pellach i’r gyfraith ryngwladol a sefydlu cyfundrefn Gyflafareddu barhaol.”
“ Achosodd y llwyddiant annisgwyl hwn, ac araith rymus Richard yn Nhŷ’r Cyffredin, gynnwrf mawr ar gyfandir Ewrop,” meddai Gwyn.
Tra’n cydnabod na fu heb ei fethiannau dengys y llyfr y bu llwyddiannau hefyd.
Wythnosau cyn ei farw ym 1888, cadeiriodd gyfarfod i lunio Siartr Prifysgol Cymru. Bu’n allweddol yn sefydlu Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Bu’n aelod o’r Comisiwn Brenhinol i Baratoi Adroddiad ar Gyflwr Addysg yng Nghymru a Lloegr (1888) a phe buasai’r Arolygwyr a’r ysgolion wedi manteisio ar Ddeddfwriaethau’r Weinyddiaeth Addysg a ddaeth yn sgîl y Comisiwn hwnnw buasai’r Gymraeg mewn cyflwr llawer cryfach heddiw.
Yr adnod Gymraeg sydd ar ei gofeb ym mynwent Abney Park yn Llundain yw:
“Canys yr oedd yn fawr gan ei genedl, ac yn gymeradwy ym mysg lluaws ei frodyr, yn ceisio daioni i’w bobl, ac yn dywedyd am heddwch i’w holl diriogaeth.”
- Cyhoeddir Henry Richard – Apostle of Peace and Welsh Patriot gan Francis Boutle Publishers, Llundain. £14.99.