Juan a cherddi eraill
Pwy allai wrthsefyll temtasiwn casgliad bach o farddoniaeth a gyhoeddwyd ym Mhatagonia ychydig yn ôl.
Gyda theitl fel Juan y Gwanaco a Cherddi Eraill doedd yna ddim dewis ond prynu.
Ac mi gefais innau fodd i fyw o syrthio i demtasiwn – a chyfaddef wrth gwrs fod gen i ddiddordeb personol mewn unrhyw beth o’r Wladfa ym Mhatagonia.
Ta beth cyfrol ydi hon, wedi ei golygu gan Esyllt Nest Roberts de Lewis, o gerddi i blant Patagonia ac wedi ei cyhoeddi gan Orsedd y Wladfa.
Mae yna gerddi gan rai o Batagonia fel Osian Hughes, Mary green, Irma Hughes de Jones, Arel Hughes de Sarda ac athrawon o Gymru a beirdd amlwg o Gymru ei hun gan gynnwys Iwan Llwyd , Mererid Hopwood, Gwion Hallam, Gwyneth Glyn a Grahame Davies.
Mae nodyn bywgraffyddol byr am y cyfranwyr i gyd - 23 ohnyn nhw – ar ddiwedd y gyfrol.
“Mae’r cyfan ohonynt bron wedi eu cyfansoddi’n arbennig ar gyfer y gyfrol hon,” meddai Esyllt Nest Roberts de Lewis am y cerddi.
Daw hi gyda llaw o Bencaenewydd, Pen Llŷn, ond yn byw gyda’i theulu yn y Gaiman er 2004. Hi yw golygydd Y Drafod ac enillodd Gadair Eisteddfod y Wladfa 2010.
Clare Whitehouse sydd biau’r gerdd yn nheitl y gyfrol am Juan y Gwanaco, hi yn dod o Abermorddu ger Wrecsam ac yn athrawes Gymraeg yn Esquel a Threvelin fel rhan o’r cynllun iaith.
Cyfrol fach delynegaidd, hyfryd, Gwladfaol ei naws a'i blas ac ar gael mewn siopau llyfrau Cymraeg yng Nghymru.