Rhys Iorwerth - Bob dau haf...
Bob dau haf mi fyddaf i’n oes oesol
(wedi i’r Saeson golli)
yn mynnu’n hurt: “dyma ni!”
Hyd angau’n dal i dyngu: “dyma’r un,
dyma’r awr i Gymru
wneud nid dweud!” Rhoi i’r naill du
siom un gêm, sham o own-goal, neu’r rhincian
am rancings uffernol
a phoenau amddiffynnol:
yn hytrach, yn ara bach, bydd hyder
eto ar ddod o’r newydd
mai’r tro yma, dyma’n dydd.
Mi welaf lan y Sianel a’n ffeinals
draw dros ffin y gorwel.
O’r diwedd mae cred dawel
yn y wawr er pob hen wae, yn y gwŷr
a’u gorau gyd-chwarae:
dod mae’u cyfnod ar y cae.
Mae’n wir fod yma’n aros, o chwilio,
sawl drychiolaeth agos.
Fe wn i am hunllef nos
a minnau’n ail-fyw Romania, yn gweld
Bobby Gould, a Georgia,
a dryswch droio Rwsia.
Mae hyn yn fy mrathu’n fy mron, a hyn
sy’n trywanu’n greulon
y graith ym mhob blwyddyn gron.
Dduw annwyl holl ddaioni byd y bêl,
yn anwel eleni
fry o’r y nef, jest ffafria ni...
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Ar y Marc
-
Alan Llwyd, Cofio Leighton
Hyd: 02:09
-
Cymru v Y Ffindir
Hyd: 07:18