Sesiynau Unnos
Gwrandewch ar gasgliad o ganeuon a gyfansoddwyd rhwng y machlud a’r wawr.
Mae C2 wedi gwahodd sawl criw o gerddorion amrywiol (ac weithiau ambell fardd ac artist) i stiwdios Brynmeirion ym Mangor i geisio ateb her y Sesiwn Unnos – sef cyfansoddi a recordio EP newydd sbon mewn un noson. Dyma'u cynnyrch hyd yn hyn.
-
Pen-ta-Gram a Gwibdaith
12 Ionawr 2010 – Pen-ta-gram (Ed Holden/Mr Phormula, Hoax ac Alex Moller) a Robbie Buckley o Gwibdaith Hen Frân.
-
Lövgreen a Lisa Jên
19 Ionawr 2010 – Lisa Jên, Geraint Lövgreen, Iwan Llwyd a gweddill yr Enw Da.
-
Mr Huw a Dilwyn Llwyd
26 Ionawr 2010 – Dilwyn Llwyd o'r grŵp Yucatan yn ymuno â Mr Huw a rhai o aelodau’r band.
-
Sŵn Du
2 Chwefror 2010 – Ynyr Roberts o’r grŵp Brigyn, y bardd Mei Mac, a’r telynor arbrofol Rhodri Davies.
-
Y Gwylanod
9 Chwefror 2010 – Gwyneth Glyn, Gareth Bonello, Aled Hughes o Cowbois Rhos Botwnnog a Pete Richardson a Sion Glyn o’r Niwl.
-
Race Horses
16 Chwefror 2010 – Caneuon newydd rhyfeddol gan Race Horses.
-
Y Cledrau
11 Ionawr 2011 – Cowbois Rhos Botwnnog a'r bardd Karen Owen.
-
Y Polyroids
18 Ionawr 2011 – Yr Ods, Carwyn Kim De Bills, Gerallt Ruggiero a Gwion Llewelyn.
-
Cravos a Morus
25 Ionawr 2011 – Steffan Cravos a Gwilym Morus.
-
Ŵy
1 Chwefror 2011 – Trwbador, Eilir Pierce a Seiriol Cwyfan.
-
Ap Smith
8 Chwefror 2011 – Gai Toms, Idris Morris Jones, Neil Maffia, Nei Karadog, Ifor ap Glyn ac Alex Moller.
-
MC Mabon, Tesni, Ceri, Ed a Dave
15 Chwefror 2011 – MC Mabon, Ed Holden, Dave Wrench a Tesni Jones a Ceri Bostock o'r grŵp Pheena.
-
Pendro
28 Chwefror 2012 – Unnos Gŵyl Dewi gyda Georgia Ruth Williams, Carwyn Colorama, aelodau o Jen Jeniro ac ailgymysgiad gan Ifan Dafydd.
-
Canolfan Hamdden
28 Tachwedd 2013 – Sesiwn Unnos Dolig gyda Gwenno, Jakokoyak, Y Pencadlys a Pat Datblygu.
-
Bangor yn 80
5 Tachwedd 2015 – Sesiwn Unnos newydd i ddathlu 80 mlynedd o ddarlledu o Fangor, gyda Gruff Jones, Gethin Griffiths, Ifan Sion Davies, Casi, Owain Llwyd a Guto Gwyn Howells.
-
Kaüs
20 Mai 2016 - Aelodau o fand Gruff Rhys, Saron, Ysgol Sul a chyn-aelod o'r Flaming Lips.
-
Sesiwn Unnos
Hafan y gyfres Sesiwn Unnos.