Main content

Eisiau gwybod MWY?

BBC Radio Cymru Mwy… ond mwy o beth?

Wel, mwy o ddewis - mwy o gerddoriaeth ac adloniant o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 7am-12pm.

Am 7am, sioe frecwast fywiog llawn cerddoriaeth yw’r dewis, tra bod y Post Cyntaf yn darlledu’r newyddion diweddaraf. Lleisiau poblogaidd fel Caryl Parry Jones, Ifan Evans, Huw Stephens a Dylan Ebenezer fydd yn cyflwyno yn ystod y cyfnod o 15 wythnos o Fedi 19.

Yn dilyn y sioe frecwast, o 10am tan 12pm bob dydd, lleisiau newydd, ac ambell un cyfarwydd yn cael trio rhywbeth gwahanol.

· Dydd Llun, cyflwynwyr newydd gyda cherddoriaeth i roi dechrau bywiog i’r wythnos. Am y mis cyntaf, y DJ o Gaerdydd Elan Evans fydd yn cyflwyno ei detholiad personol hi o draciau.

· Dydd Mawrth a dydd Iau, rhaglenni cerddorol i gyfareddu fydd gyda ni, yn cynnig rhestrau o ganeuon thematig a dewisiadau diddorol gan enwau mawrion – cyfle i ddianc i fyd cerddoriaeth ddi-dor, a chanfod eich hoff gân nesa.

· Rhaglenni gwahanol ac unigryw fydd i’w clywed bob dydd Mercher, gan ddechrau gyda’r artist theatr Gwennan Mair, o Lan Ffestiniog.

· A bydd rhaglenni dydd Gwener yn codi gwên ac edrych ymlaen at gyffro’r penwythnos. Newydd ddychwelyd o berfformio dros 60 sioe yng Nghaeredin mae’r comediwr Steffan Alun o Abertawe. Fe fydd yn ymuno â Kevin Davies er mwyn edrych nôl ar rai o straeon llai amlwg yr wythnos

Dyma'r atebion i rai o'ch cwestiynau...

Beth yw BBC Radio Cymru Mwy?

Gorsaf gerddoriaeth ac adloniant ddigidol dros-dro yn cynnig mwy o ddewis i siaradwyr Cymraeg.

Mae'r orsaf yn rhedeg o Medi 19eg – Ionawr 2il 2017.

Mae'r orsaf yn darlledu o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 7am-12pm.

Mae amserlen llawn ar gael ar wefan bbc.co.uk/radiocymrumwy

Pam sefydlu gorsaf dros dro?

Mae arferion gwrando a disgwyliadau gwrandawyr yn newid yn gyflym.

Gan fod datblygiadau technolegol yn caniatau i ni arloesi, beth sydd yma yw arbrawf dros dro i gynnig hyd yn oed mwy o raglenni a chynnwys i ychwanegu at y profiad o wrando ar Radio Cymru.

Sut mae gwrando?

Gallwch wrando ar wefan bbc.co.uk/radiocymrumwy, ar ffonau symudol a thabledi drwy ap BBC iPlayer Radio ac ar radio digidol DAB yn ne-Ddwyrain Cymru.

Mae rhaglenni Radio Cymru Mwy hefyd ar gael ar alw. Dydy'r orsaf ddim ar gael ar FM nac ar deledu digidol.

Sut ydw i'n gwrando ar fy ffôn / tabled?

Gallwch wrando ar ein rhaglenni yn fyw a gwrando ar raglenni o'r 30 diwrnod diwethaf ar eich ffon neu dabled trwy ddefnyddio Ap BBC iPlayer Radio.

Lawrlwythwch Ap iPlayer Radio (Apple)

Lawrlwythwch ap iPlayer Radio (Android)

Pam mae yn y De Ddwyrain yn unig fydd y gwasanaeth DAB ar gael?

Roedd yn bwysig i ni dreialu’r orsaf ar y platfform yma er mwyn dysgu mwy am y posibiliadau technegol ond roedd yn rhaid dewis un ardal.

Mae hi'n dechnegol haws i dreialu yn y De Ddwyrain ac felly yn rhatach, a dyna sydd wedi arwain at y dewis.

Mae BBC Radio Cymru Mwy ar gael ar amlblecs masnachol de Ddwyrain Cymru sy’n gwasanaethu ardaloedd Caerdydd, Casnewydd, Caerffili, Merthyr, Penybont, Pontypridd, Pontypwl, Cwmbran, Y Barri a’r cyffiiniau.

Sut mae darganfod Radio Cymru Mwy ar DAB

Mae nifer fawr o setiau radio digidol DAB gwahanol o phob un yn gweithio mewn ffordd ychydig yn wahanol.

Bydd nifer o setiau radio yn diweddaru ac yn darganfod Radio Cymru Mwy heb unrhyw gymorth.

Os na fyddan nhw, yn gyffredinol mae angen chwilio am fotwm neu opsiwn Auto Tune / Auto Scan.

Dylie hyn ychwanegu Radio Cymru Mwy i'r rhestr gorsafoedd.

Pam fod Radio Cymru Mwy yn Mono ar DAB?

Gorsaf dros dro yw Radio Cymru Mwy.

Rhan o’r arbrawf yw dysgu am y posibiliadau a phroblemau technegol sy’n dod yn sgil cynnig dewis yn y Gymraeg i’r gynulleidfa ar lwyfannau gwahanol.

Fe fydd clywed beth yw ymateb y rheiny fydd yn gwrando drwy eu setiau radio digidol i ansawdd technegol y gwasanaeth mono yn rhan o’r arbrawf.

Bydd Radio Cymru Mwy yn stereo hyd at 256kbps wrth wrando ar-lein neu drwy ap iPlayer Radio.

Ydy amserlen BBC Radio Cymru yn cael ei heffeithio gan yr orsaf dros dro?

Dydy amserlen Radio Cymru ddim yn newid.

Manylion Radio Cymru Mwy ar y teledu

Mae modd gwrando ar Radio Cymru Mwy ar deledu hefyd drwy

Freeview (Sianel 721)

Sky (Sianel 0152)

Youview (Sianel 807)

Sut mae anfon adborth?

Gallwch ebostio unrhyw sylwadau at dweudmwy@bbc.co.uk