Main content

STIWDIO GORWELION YN YR EISTEDDFOD

UCHAFBWYNTIAU Stiwdio Gorwelion

Stiwdio Gorwelion Highlights/ Uchafbwyntiau

Recorded at The National Eisteddfod 2016. Recordiwyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol 2016.

Mae’r Eisteddfod bob amser yn wythnos arbennig i Gorwelion, ond eleni fe wnaethon ni gynnwys rhywbeth cwbl unigryw i redeg ochr yn ochr â’r gigs a’r sesiynau radio: dau gynhwysydd llongau lliwgar a gafodd eu trawsnewid gan ein criw llwyfan medrus yn eu gweithdy cyfrinachol yn stiwdio unnos a arweiniodd at lond gwlad o recordiadau gwych a digon o wenu gan y bobl oedd yn gwrando ar y Maes drwy uchelseinyddion y stiwdio.

Bob dydd, cafodd hyd at 6 o fandiau ac artistiaid gyfle i berfformio un o’u caneuon eu hunain a hefyd cân Gymraeg arall a oedd yn ffefryn ganddyn nhw. Roedd hyn yn cynnwys artistiaid cynllun Gorwelion o’r presennol a’r gorffennol yn ogystal ag artistiaid eraill o Gymru sy’n creu bwrlwm gyda’u cerddoriaeth.

Edrychwch ar rai o sesiynau artistiaid Gorwelion isod. Mae mwy i’w gweld ar ein Tudalen ni ar Facebook ac ar wefan BBC Radio Cymru.

LLUNIAU Stiwdio Gorwelion