Main content
Englynion Llyr Gwyn Lewis
Englynion bardd preswyl Radio Cymru Llyr Gwyn Lewis.
Llyr Gwyn Lewis

englynion i'r ffrwythaU a'r llysiaU
Hei! Os wyt yn hoff o sudd, - yn ysu
am dy lysiau beunydd,
i ni, mae cyngor newydd:
saetha di am saith y dydd.
Cei letus, a phys, a ffa - a radish
a rwdins i'w bwyta,
nionyn, a saith banana,
a llond bws o datws da.
englyn ar gyfer rhaglen Dylan Jones
Mae un sy'n ein dihuno, - yn barod
bob bore â'i sgwrsio;
daw â'i offrwm i'n deffro,
ac ambell gân: Dylan 'di o!