Apel y Talwrn
Apêl ar Ran Y Talwrn
Y mae’r Talwrn yn ddigartre,
y mae’r beirdd ar daith y glêr
ac mae’r Meuryn fel rhyw hobo’n
gorfod cysgu dan y sêr.
Felly, plîs, wrandawyr annwyl,
rhowch wahoddiad nawr i ni
i ricordio ein rhaglenni
yn eich cymunedau chi.
Leoliadau ledled Cymru
rhowch wahoddiad nawr i ni,
wa’th dyw’r talwrn ddim yn dalwrn
oni bai amdanoch chi.
Boed yn festri, boed yn fistro,
boed e’n batio neu glwb bowls,
bwyty, gwesty neu hen gastell,
neu lyfyrgell, neu sied ffowls,
rhowch wahoddiad i’r hen dalwrn,
nid yw’n costio dim i chi,
dim ond cynnull cynulleidfa,
eistedd nôl a joio’r sbri!
Leoliadau ledled Cymru
rhowch wahoddiad nawr i ni,
wa’th dyw’r talwrn ddim yn dalwrn
oni bai amdanoch chi.
Bydd y beirdd yn gwerthfawrogi
bach o fwyd a dishgled ffein:
nid llawenydd yw llawenydd
heb y lluniaeth, medde’r rhein.
Gwinoedd drud a chig y ceirw
oedd y wledd flynyddoedd nol,
ond bodlonith beirdd y talwrn
ar cream horn a sausage roll!
Leoliadau ledled Cymru
rhowch wahoddiad nawr i ni,
wa’th dyw’r talwrn ddim yn dalwrn
oni bai amdanoch chi.
Cyn terfynu rhaid apelio
i gael tîmau newydd sbon,
boed y rheini mewn cewynne
neu yn pwyso ar eu ffon.
Oes, mae angen cystadleuaeth
ar y timau gorau i gyd
er mwyn profi taw beirdd Cymru
yw talyrnwyr gorau’r byd.
Beirdd a lleoliadau Cymru,
rhowch eich enwau nawr i ni,
wa’th dyw’r talwrn ddim yn dalwrn
oni bai amdanoch chi.
cwj (1.10.14)