Main content

Myrddin Ap Dafydd - Dwy Goeden Gastan

Dwy Goeden Gastan

Wedi eitem ar raglen Bore Cothi, 14 Gorff gyda Rory Francis am gystadleuaeth Coeden Cymru.

Roedd Shân Cothi yn sôn yn annwyl am ddwy goeden gastan ar ei fferm gartref yn Farmers, sy'n werth eu gweld ym mhob tymor o'r flwyddyn.

Am goed castan y canaf

a’r gwynt yn eu ffrogiau haf,

cwlwm cotwm yn y co’

a’u dail yn agor dwylo

yn gysgod rhag cawodydd,

yn do rhag trawiad y dydd.

Canaf i’r cynhaeaf cnau

a llawen hel y lliwiau:

disgleirdeb fel croen ebol

o dan ddail fflam-dân y ddôl,

wedyn eu llinynnu nhw’n

goncwerwyr y gnoc arw.

Eu hangorion yn Ionawr

ar fôr y storm eira fawr –

ynddyn y caf destun cân,

ac uwch na’u mastiau’n gwichian

yw grym eu pridd, grym parhau

o’u rhuddin hyd eu gwreiddiau.

Yna daw Mai, dyma wên

o dwf eu blodau hufen,

pob troedfedd o’r coed heddiw’n

ddinas las ddeiliog o liw;

O’r hen goed, yr awen ’gaf

ac i’w gwanwyn mi ganaf.