Main content

Traeth ‘Mermaid’

Traeth Mermaid gan Karen Owen

Karen Owen ar raglen Dylan Jones

Traeth ‘Mermaid’

Y Foel, ger Dwyran

Un tro yn Abermenai
roedd caer o gerrig mân,
cyn daeth y llanw barus
i lyfu’r lle yn lân;
roedd byw yn wyn fel hufen iâ
a reid y mul yn hir fel ha’.

Pan fûm yn Abermenai
yr oedd y dydd yn faith
a’r gwymon styfnig, lleol,
heb feddwl byjio chwaith;
nid oedd ond taid a nain a ni,
sŵn cregyn mân, a chwch a chi.

Mae’r Foel yn Abermenai
mor llydan ag erioed
a finnau’n croesi’r graean
â chamau deugain oed;
ond castell y fôr-forwyn hardd
sydd heddiw’n hŷn, fel pwt o fardd.

Mai 1, 2014