Main content

Gŵyl Civilisations – Sut i gyfranogi

Croeso i Ŵyl Civilisations: partneriaeth gyffrous rhwng amgueddfeydd, llyfrgelloedd, galerïau ac archifau a’r BBC i gydfynd â darllediad cyfres Civilisations Celfyddydau y BBC yng Ngwanwyn 2018. Bydd yr Ŵyl – o Ddydd Gwener 2il o Fawrth i Ddydd Sul 11eg o Fawrth – yn arddangosiad o syniadau a digwyddiadau sydd wedi eu dylunio i ymgysylltu â chynulleidfa sydd yn ddiwylliannol chwilfrydig. Yma, cewch ddarganfod sut y gall eich sefydliad gymryd rhan yn y gweithgareddau arloesol ac amrywiol sydd wedi eu trefnu.

Bydd Civilisations yn cael ei gyflwyno gan David Olusoga, Mary Beard a Simon Schama.

Cyfranogwch

Erbyn hyn, mae bron i hanner canrif wedi mynd heibio ers i gyfres Civilisations Kenneth Clarke ddifyrru cynulleidfaoedd gyda’i dehongliad awdurdodol o’r gorau o gelf Gorllewinol. Gan gymryd ysbrydoliaeth gan y rhaglen arloesol honno, bydd y gyfres newydd o Civilisations ar BBC Two yn cyflwyno cenhedlaeth newydd i waith meistri celf o brydferthwch a dyfeisgarwch ar hyd a lled y cyfandiroedd. Bydd y gyfres hefyd yn gofyn cwestiynau am beth sydd yn gwneud gwareiddiad, a sut y mae syniadau gwahanol o wareiddiadau wedi atgyfnerthu syniadau a gwerthoedd diwylliannol.

Bydd Gŵyl Civilisations yn rhedeg ochr yn ochr â’r gyfres yng Ngwanwyn 2018. Rydym yn gwahodd ag amgueddfeydd, galerïau a llyfrgelloedd i amserlennu digwyddiadau er mwyn dechrau trafodaethau, ehangu dealltwriaeth a rhannu syniadau am beth a olygir gan y term gwareiddiad.

Rydym yn gweitho’n agos â phob cornel o’r BBC i ddweud straeon o’r digwyddiadau hyn a bydd radio lleol yn arbennig yn chwarae rôl hanfodol mewn dod â’r rhain i’w cynulleidfaoedd. Rydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â Culture24 a fydd yn rhestru’r digwyddiadau hyn ar Museum Crush.

Mae cynnwys y digwyddiadau hyn yn rhywbeth i’ch sefydliad benderfynu. Gallai fod yn drafodaeth neu yn araith, yn berfformiad neu yn weithdy ymarferol gan ddefnyddio eitem o’ch casgliad fel pwynt cychwyn.

  • Bydd brandio yn cael ei gynnwys felly cewch hysbysu eich ymwelwyr bod y digwyddiad yn rhan o Ŵyl Civilisations
  • Bydd y digwyddiad yn cael ei restru ar Museum Crush
  • Gall curadwyr a siaradwyr gael gwahoddiad i fod yn westeion ar raglenni’r BBC
  • Mewn rhai achosion, gall gorsafoedd benderfynu cynnwys eich digwyddiad mewn darllediad allanol

Dyddiad yr ŵyl yw Dydd Gwener 2il o Fawrth i Ddydd Sul 11eg o Fawrth. Cofrestrwch fel partner Gŵyl Civilisations yma.
Unwaith i sefydliad ddod yn bartner Gŵyl Civilisations bydd ganddo fynediad i frandio, yn amodol ar delerau ac amodau, ac yn derbyn cylchlythyrau rheolaidd gyda’r newyddion diweddaraf ar yr ŵyl.

Nod yr ŵyl yw ymgysylltu cynulleidfa mor eang â phosib, a’r gobaith yw y bydd amgueddfeydd, galerïau, llyfrgelloedd ac archifau yn dod i’r amlwg fel y llefydd i ofyn y cwestiwn am hunaniaeth a gwareiddiad yn 2018.

Cyfleoedd Digidol a’r Ap Realiti Estynedig

Drwy weithio gydag adran Ymchwil a Datblygiad y BBC ‘rydym eisiau arbrofi gyda thechnoleg ddigidol i ddarganfod ffyrdd newydd o ddweud straeon ac ymgysylltu cynulleidfaoedd. Rydym yn cynnig y cyfle i sefydliadau ddefnyddio offer arloesol newydd ei ddatblygu a’i brofi ar blatfform BBC Taster, sydd wedi’i ddylunio i ehangu ffiniau digidol newydd.

Mae ap realiti estynedig (AR) yn cael ei ddatblygu gan y BBC a fydd yn caniatau i gynulleidfaoedd archwilio eitemau o’ch casgliadau gan ddefnyddio eu ffonau symudol a’u tabledi. Hoffwn gael eich help o ran awgrymiadau ar beth y dylwn gynnwys.

Bydd angen i’r amgueddfeydd greu fersiynau digidol o’r arteffactau gyda chymorth gan bartneriaid ar hyd y sector a’r BBC. Bydd angen darparu gwybodaeth a dogfennau i gydfynd â rhain hefyd, er mwyn gosod pob eitem yn ei chyd-destun. Bydd y rhain wedyn yn cael eu curadu o fewn yr ap, o gwmpas themâu er enghraifft, gyda’r gallu i’w gweld mewn cyd-destun byd go iawn, e.e. rhoi darluniau o ogof ar wal yn eich cartref i ganiatau i’r gynulleidfa archwilio, darganfod a dysgu rhagor.

Bydd cyfleoedd digidol eraill gan Ymchwil a Datblygiad y BBC yn cynnwys offer fideo rhyngweithiol 360, darlledu fideo byw rhad, a chynnwys wedi’i bersonoleiddio cysylltiedig â phartneriaeth yr Ŵyl. Bydd y rhain ar gael o Becyn Cymorth Ymchwil a Datblygiad a fydd ar gael o fis Medi. Cewch archwilio enghreifftiau o waith Ymchwil a Datblygiad ar bbc.co.uk/rd neu bbc.co.uk/taster.

Os oes gan eich sefydliad ddiddordeb mewn cymryd rhan yna cofrestrwch fel Partner Gŵyl Civilastions yma.

Welcome to Taster

The BBC's home of new ideas

Civilisations

Bydd Civilisations yn archwilio diwylliant gweledol cymdeithasau ar hyd a lled y byd, gan ddatgelu ochr yn ochr â’r gwrthrychau gwych o’r Gorllewin, gyfoeth o drysorau eraill wedi eu creu gan ddiwylliannau eraill, o sgroliau tirlun Tseina clasurol a cherfluniau’r Olmecs i waith efydd o’r Affrig, printiau o Siapan a miniaturau Mughal.

Mae’n cael ei ffilmio o gwmpas y byd, yn Ewrop, Asia, yr Affrig a Chyfandiroedd America. Rydym erbyn hyn yn edrych ar gomisiynu episod arall o Civilisations a fydd yn cael ei siapio yn olygyddol gan sector amgueddfeydd Prydain, ac yn cynnwys deunyddiau gan gasgliadau yma yn y DU. Mae’r prosiect yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.

Gwiriwch yn ôl yma am ragor o ddiweddariadau. Byddwn hefyd yn eich hysbysu pan fod gennym ragor o fanylion yn ein cylchlythyron rheolaidd. Cofrestrwch fel Partner Gŵyl Civilastions yma.

Archwilio archif y BBC

Mae’r BBC eisiau agor ei archif anferth i fyny i bartneriaid yn y prosiect i’w ddefnyddio mewn digwyddiadau neu yn y straeon y maent yn dymuno eu hadrodd fel rhan o’r Ŵyl.

Mae cynnydd sylweddol wedi’i wneud o ran gwneud yr archif yn haws i’w archwilio dros y blynyddoedd diweddar, felly os ceir caniatâd, hoffwn wahodd i bartneriaid chwilio trwy beth sydd gennym i weld beth sydd o bosib yn ddefnyddiol iddynt. Hoffwn wybod pa bartneriaid sydd â diddordeb, er mwyn datblygu’r ffordd orau o sut i sicrhau bod hyn yn digwydd.

Os oes diddordeb gan eich sefydliad mewn defnyddio archif y BBC yna cofrestrwch fel Partner Gŵyl Civilastions yma os gwelwch yn dda.

Roedd cyfres arloesol Kenneth Clark yn edrych ar ddatblygiad gwareiddiad

Bydd y BBC yn casglu a phrosesu eich gwybodaeth bersonol fel enw eich sefydliad, enw cyswllt, cyfeiriad ebost a’r rhif ffôn ‘rydych yn ei ddarparu er mwyn cysylltu â chi am fod yn rhan o Ŵyl Civilsations, ac (os ydych wedi dewis gwneud) i dderbyn Cylchlythyr rheolaidd i’ch hysbysu o’r newyddion diweddaraf ar Ŵyl Civilsations. Gall eich data personol gael ei rannu gyda thrydydd partïon fel Maximizer a Monterosa a gallai gael ei rannu o fewn y BBC at bwrpas gweinyddu’r Ŵyl. Ni fydd eich data personol yn cael ei rannu gydag unrhyw drydydd partïon eraill y tu allan i’r BBC heb eich caniatâd. Bydd eich data personol yn cael ei gadw hyd at fis Medi 2018 oni bai bod angen ei gadw am gyfnod mwy neu bod caniatâd cyfreithiol yn cael ei roi am ei gadw am ragor o amser. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau am beth sydd yn digwydd i’ch data personol neu i adael i ni wybod os hoffech chi dynnu eich gwybodaeth bersonol yn ôl drwy gysylltu â ni ar civilisations@bbc.co.uk. Mae rhagor o wybodaeth ar sut y mae’r BBC yn delio gyda data ar gael yma.