Ail Fedal Ddrama i Dyfed

06 Awst 2009

Dyfed a'i briod Marnie

Ennill - ond drama'r llynedd yn dal heb ei pherfformio!

Er nad yw'r ddrama enillodd iddo'r Fedal Ddrama yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd byth wedi ei pherfformio dywedodd yr awdur nad yw'n dal dig - er ei fod yn siomedig.

Yr oedd Dyfed Edwards, awdur a newyddiadurwr sy'n gweithio yn Llundain, yn siarad yn dilyn y cyhoeddiad mai ef enillodd y wobr eleni gyda drama yn ymwneud ˆa theulu milwr a laddwyd yn Affganistan.

Wrth fynegi ei siom dywedodd mai "blueprint" yw drama i rywbeth sy'n cael ei berfformio ac nad yw'n orffenedig nes ei bod wedi ei pherfformio.

"Yr unig reswm y mae dramodydd yn sgwennu drama yw er mwyn iddi gael ei llwyfannu - dyda ni ddim yn sgwennu er mwyn ein pleser ein hunain," meddai.

Dydi drama ddim yn byw nes y mae'n cael ei pherfformio," meddai.

Ond nid oedd yn beio'r Eisteddfod o gwbl na lwyfannwyd hyd yn hyn ei ymgais lwyddiannus y llynedd.

Yn wir canmolodd yr Eisteddfod am ddod â seremoni cyflwyno'r fedal yn ôl i brif lwyfan yr Ŵyl.

"Does gen i ddim byd ond diolch i'r Eisteddfod am ddod â'r Fedal Ddrama yn ôl i'r pafiliwn - mae hynny yn rhywbeth y dylid rhoi clod iddyn nhw am ei wneud," meddai.

"Mae'n deimlad anhygoel bod yna, yn deimlad grêt," meddai.

Ac awgrymodd "un cam bach arall" o berfformio'r ddrama fuddugol neu o leiaf rannau ohoni.

Mewn maes arall mae Dyfed Edwards wedi profi llawer mwy o foddhad fodd bynnag.

Cyhoeddodd nifer o lyfrau Cymraeg ac mae ganddo gytundeb gyda chyhoeddwr Saesneg i gyhoeddi wyth o lyfrau arswyd dan yr enw Thomas Enson.

Mae dwy o'r rheini eisoes wedi eu cyhoeddi a bydd y drydedd ar gael fis Tachwedd meddai.

Gyda'i lyfrau a'i ddramâu dywedodd mai ei fwriad yw dweud stori.

"Dwi ddim yn rhywun sy'n trio cyfleu rhyw fath o neges yn ddim byd dwi'n wneud. Dweud stori dwi isio. Storiwr ydw i'n cysidro fy hun. Dyna ydw i eisiau'i wneud. Felly does yna ddim neges na dim byd felly yn y ddrama," meddai.


Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.