Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Hen Bethau Anghofiedig

Vaughan Roderick | 11:27, Dydd Mawrth, 4 Rhagfyr 2012

Roeddwn i lan yn Wrecsam ddoe yn gwneud un neu ddau o bethau. Un o'r rheiny oedd gweld arddangosfa "Celfyddyd a Diwydiant" ym Mhrifysgol Glyndŵr. Gweithiau celf o gasgliad preifat yr actor, Lindsay Evans, sy'n cael eu harddangos - lluniau o safleoedd a bywyd diwydiannol Cymru gan rai o'n hartistiaid amlycaf.

Mae'r lluniau'n gwerth eu gweld o safbwynt eu celf ond maen nhw hefyd yn dwyn i gof maint a grym diwydiannau trymion yr oes a fu. Trwy ddelwedd yn unig y mae gwerthfawrogi mawredd gweithfeydd fel Cyfarthfa a'r Tŷ Du heddiw. Dyna yw'r unig ffordd hefyd i ddwyn i gof tirwedd wenwynig gwaelod Cwm Tawe - ardal lle mae 'na elyrch ar yr afon ac mewn stadiwm y dyddiau hyn.

Gorchest fawr Awdurdod Datblygu Cymru oedd clirio ac adfer hen safleoedd diwydiannol. Fe wnaeth hynny llawer mwy i newid Cymru na rhai o'r buddsoddiadau tramor byrhoedlog yr oedd yr awdurdod yn gweithio mor galed i'w denu. Heddiw lle bu'r gweithiau haearn a chopr, y pyllau glo a'r mwynfeydd mae 'na dai, ffatrïoedd archfarchnadoedd a pharciau gwledig.

Eto i gyd mae cwestiwn yn fy nharo weithiau sef hwn - a gliriwyd gormod? Ai dileu'r cyfan oedd y peth iawn i wneud?

Os ydych chi'n gyrru ar hyd Cwm Taf Bargod heddiw gallwch ddychmygu eich bod yng nghanol Sir Faesyfed. Does dim byd ar ôl i awgrymu bod hwn wedi bod yn un o gymoedd mwyaf hagr Cymru ar un adeg.

Mae'n hynod o bert - ond yn golygu llai rhywsut na Chwm Ystwyth gyda'i adfeilion yn dystion mud i greulondeb y pyllau plwm na'r tomenni gwastraff sy'n gofeb i ddiwydrwydd a dioddefaint y chwarelwyr llechi ym Mro Ffestiniog.

Teimladau felly sy'n gyfrifol, dybiwn i, am y galwadau am "Amgueddfa Hanes y Bobol" yn y cymoedd a chofeb genedlaethol i lowyr Cymru. Ond sut fyddai Amgueddfa'r Bobol yn rhagori ar Bwll Mawr Blaenafon - a beth yw'r gwahaniaeth rhwng "pobol" yr amgueddfa newydd a "gwerin" Sain Ffagan? O safbwynt cofeb a allai unrhyw beth fod hanner mor drawiadol â'r cawr sy'n tystio yn Six Bells?

Ond efallai ein bod yn ceisio gwneud yn iawn yn fan hyn am fethiant mewn maes arall - methiant rhieni ac athrawon i gyflwyno stori ein gwlad i'n plant.

Rhyw fis yn ôl cyhoeddodd Leighton Andrews ei fod am gynnal adolygiad o'r ffordd y mae Hanes Cymru yn cael ei dysgu yn yr ysgolion. Gofynnwyd i Dr Elin Jones gadeirio grŵp gorchwyl a gorffen i astudio sut mae sicrhau bod disgyblion yn dod "yn gyfarwydd â'u syniad eu hunain o 'Gymreictod' ac i fagu mwy o deimlad o berthyn i'w cymuned leol a'u gwlad."

Mae cael hynny'n iawn yn bwysicach nac unrhyw gofeb neu amgueddfa, dybiwn i a dysgu plant am hen bethau anghofiedig eu bröydd eu hun yw'r ffordd orau i ddechrau.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 15:28 ar 5 Rhagfyr 2012, ysgrifennodd Andrew Misell:

    Mi fûm i’n gweithio yn y Cynulliad yn ei flynyddoedd cyntaf, a oedd hefyd yn flynyddoedd olaf dileu olion y diwydiant glo o Fae Caerdydd. Cofiaf yn dda weld y darn olaf o hen reilffyrdd y dociau ar ddarn o dir ddiffaith o flaen Tŷ Crug Hywel. Ysgrifennais yn “Barn” tua 2001 am fel roedd yr ardal yn cael ei hail-ddatblygu a phob dim yn cael enwau newydd heb fymryn o gysylltiad lleol nac ystyr hanesyddol.
    Roeddwn i’n byw yn Adamsdown ar y pryd, a chofiaf siarad â gwraig lleol a gollodd ei mab yn fachgen bach pan foddodd e yn hen Ddoc Bute y Gorllewin (o dan Schooner Way erbyn hyn). Mae’n debyg bod llwythi mawr o goed yn cael eu cadw yn y doc o bryd i’w gilydd, a bu’n bachgen yn cerdded dros y bonion pan lithrodd rhyngddynt. Caeodd y bonion uwch ei ben a’i adael o dan y dŵr. Dywedais wrth y ddynes annwyl fod yr hen ddoc bellach wedi ei lenwi, ei ail-enwi, a thai wedi’u codi ar ei ben. Chwerthin am fy mhen wnaeth hi, a gwrthod credu’r fath syniad dwl.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.