Cariad at y cwm
Deugain mlynedd yn ôl i'r wythnos hon bu farw S.O Davies un o gymeriadau mwyaf lliwgar hanes gwleidyddol Cymru.
Fe fyddai'n deg i ddadlau, rwy'n meddwl, mai S.O yw'r Aelod Seneddol mwyaf asgell chwith yn hanes gwleidyddiaeth Cymru.
Cafodd ei ddiarddel o'r blaid Lafur seneddol o leiaf bump o weithiau am wrthryfela ac roedd ganddo fwy o feddwl o bolisi tramor Moscow nac un Whitehall. Roedd hefyd yn un o'r ychydig aelodau seneddol i gefnogi'r ymgyrch dros Senedd i Gymru yn y pumdegau. Ar ôl colli'r enwebiad Llafur ym Merthyr yn 1970 fe safodd fel ymgeisydd annibynnol ac yn groes i bob disgwyl fe lwyddodd i drechu'r peiriant lleol a chadw'r sedd.
Bu farw S.O prin ddwy flynedd yn ddiweddarach ac yn yr isetholiad a ddilynodd ei farwolaeth cafwyd ras agos rhwng Llafur a Phlaid Cymru gyda'r cenedlaetholwyr yn honni mai eu hymgeisydd nhw, Emrys Roberts, oedd gwir etifedd radicaliaeth genedlaetholgar yr hen rebel.
Mae gen i fat cwrw yn rhywle ac arno'r slogan "Henry Richard - Keir Hardie - S.O - Emrys - Let's give Merthyr the Grand Slam!" - neu rywbeth felly. Beth bynnag oedd yr union eiriau - chi'n deall y neges
Merthyr oedd yr olaf o dri isetholiad nodweddiadol yn y cymoedd yn chwedegau a saithdegau'r ganrif ddiwethaf lle ddaeth Plaid Cymru o fewn trwch blewyn i drechu Llafur. Fe esgorodd y rheiny ar ganfyddiad yn rhengoedd Plaid Cymru mai'r ffordd i'r blaid sicrhau mwyafrif a thrwy hynny annibyniaeth oedd trwy drechu Llafur yn y cymoedd ac mae'r ffordd orau i wneud hynny oedd trwy ymosod arni o'r chwith.
Mae ambell i lwyddiant mewn etholiadau lleol ers hynny ac ennill Islwyn a'r Rhondda yn 1999 wedi bod yn ddigon i ddarbwyllo nifer o fewn y blaid bod y strategaeth yn un realistig a rhesymol o hyd. Mae'r gred honno yn rhan o apêl Leanne Wood fel arweinydd posib i nifer o bleidwyr.
Mae'n ddigon posib hanner canrif yn ôl bod y fformiwla 'Y Fro Gymraeg + y cymoedd = annibyniaeth' yn cynrychioli'r unig lwybr at lwyddiant i Blaid Cymru. Yn sicr doedd fawr ddim tystiolaeth ar y pryd y gallai'r blaid apelio yn yr hyn a ddisgrifiwyd ar y pryd fel "British Wales".
Ond ydy hynny o hyd yn wir? Ydy hi'n bosib bod breuddwydio breuddwydion mawr ynghylch y cymoedd wedi dallu Plaid Cymru i strategaethau posib eraill?
Wedi'r cyfan ers degawdau bellach bu gan y blaid bresenoldeb ar Gyngor Bro Morgannwg ac yn etholiad cynulliad y llynedd fe enillodd bron cymaint o bleidleisiau yng Ngorllewin Caerdydd.
Hyd y gwelaf i does un o'r tri ymgeisydd ar gyfer arweinyddiaeth Plaid Cymru wedi bod yn sôn rhyw lawer am sut mae apelio at y Gymru ddinesig. Oni ddylen nhw wneud neu ydy S.O yn dal i daflu ei gysgod dros y blaid?
i
SylwadauAnfon sylw
Fel un a fu’n rhan o’r ”presenoldeb ar Gyngor Bro Morgannwg” (yn wir, fi oedd Y presenoldeb rhwng 1979 a 1983), dwi’n credu bod perygl mewn ceisio dod i gasgliad ar sail etholiadau lleol ynghylch dewis safbwynt ideolegol fydd yn ennill pleidleisiau. Go brin bod fy safbwynt ideolegol innau’n wahanol iawn i eiddo Leanne, ond nid ar sail ideoleg yr enillwyd y ‘presenoldeb’ hwnnw. Hunan-dwyll fyddai honni hynny, gwaetha’r modd.
Y gwir syml yw taw’r hyn a enillodd gyfres o etholiadau lleol i’r Blaid mewn rhai wardiau penodol ym Mro Morgannwg oedd tîmau lleol cryf a chyson. A yw hynny, mewn gwirionedd, yn wahanol iawn i’r sefyllfa yn y Cymoedd? Traul a llanw fu hi ers degawdau yn absenoldeb y cryfder a’r cysondeb hwnnw, ac mae’r cymoedd yn dystiolaeth i hynny, yn amlwg.
Nid dadlau ydw i na ddylai gwleidyddion arddel safbwynt ideolegol; dim ond dweud nad yw’r safbwynt honno ddim bob tro’n chwarae rôl mor bwysig â hynny wrth benderfynu acnlyniad unrhyw etholiad, yn arbennig ar lefel leol.
Diolch am roi peth o hanes S.O. inni, Vaughan. Mae rhywbeth yng nghefn fy meddwl mai un o'r rhesymau nad oedd yn fodlon â'r ymgeisydd Llafur a roed yn ei erbyn yn 1970 oedd nad oedd hwnnw'n 'wilia Cwmrêg', chwedl S.O., ac felly nad oedd wir yn addas i fod yn AS Merthyr! Ces gip ar y ddolen a roddwyd i'r Bywgraffiadur Cymreig, ac wedyn ar ei gofnod yn yr Oxford Dictionary of National Biography. Dim gair yn y naill na'r llall ei fod yn siarad Cymraeg (er bod cofnod y Bywgraffiadur yn 1,200+ gair). Ces olwg wedyn ar y cofnodion am ei bartner yn Ffedarasiwn y Glowyr, Noah Ablett. Dim gair ei fod ef yn medru'r Gymraeg chwaith. Byddwn yn tybio bod iaith gyntaf yr unigolion hyn yn rhywbeth werth ei nodi mewn cofnodion bywgraffyddol safonol. Mae'r diffyg yn siomedig iawn yn y DNB, ond yn waeth eto gan y Bywgraffiadur.
Dw i’n cytuno bod ‘ennill y Cymoedd’ wedi bod yn rhyw fath o obsesiwn i Blaid Cymru ar hyd y blynyddoedd.
Yr hyn sy’n rhaid ei ddeall ydi bod yr ymlyniad yma i’r Cymoedd yn rhywbeth llawer dyfnach na strategaeth wleidyddol yn unig. Mae’n deillio’n bennaf o ddarlun rhamantaidd a delfrydgar sydd ym meddyliau llawer o bleidwyr y gogledd a’r gorllewin am bentrefi glofaol cymdogol a sosialaidd lle mae’r Gymraeg yn adennill tir.
Y darlun rhamantaidd yma, yn ogystal â’r ffaith fod y Cymoedd yn gadarnleoedd Llafur, sydd hefyd y tu ôl i’r ddamcaniaeth mai trwy fod i’r chwith o’r blaid Lafur y mae ennill cefnogaeth eu trigolion.
Hyd nes y bydd Plaid Cymru’n cwestiynu o ddifri pa sail sydd i ddamcaniaeth o’r fath, anodd gweld pa obaith sydd ganddi o dyfu i fod y blaid fwyaf yng Nghymru.