Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Llyfr Mawr y Plant

Vaughan Roderick | 13:18, Dydd Iau, 13 Hydref 2011

Efallai bod hi braidd yn gynnar i chi feddwl am siopa 'Dolig ond gadewch i mi argymell y gyfres yma o lyfrau. Pwy na fyddai'n dymuno cael copi o "Peter Black and the Travelling Circus"?

Rwy'n cymryd mai nofel ynghylch ymdrechion aflwyddiannus y Democratiaid Rhyddfrydol yn 2011. Yn bersonol rwyf o'r farn y byddai "Aled Roberts and the Missing Website" yn deitl gwell.

Pa ots? Yn sicr mae 'na le i hwn ar y silff lyfrau - rhywle rhwng "Corn Pistol a'r Chwipiaid" a "Rosemary Butler and the Chamber of Secrets"!

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.