Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Hen Fenyw Fach Cydweli

Vaughan Roderick | 15:43, Dydd Mawrth, 18 Mai 2010

jellysweet.jpgMae'r wythnosau diwethaf wedi bod yn rhai prysur. Serch hynny rwy'n ei chael hi'n anodd credu na roddwyd y sylw priodol i ddarn hynod o bwysig o ddeddfwriaeth Gymreig.

Os ydych chi'n hoff o gwpanau jeli bach mae gen i newyddion drwg. Tridiau sydd ar ôl cyn i'r Rheoliadau Bwyd (Jeli Cwpanau Bach) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Diwygio) 2010 ddod i rym! Mae'r gwaharddiad brys ar y losin yn barhaol felly!

Dyna biti, mae unrhywbeth sy'n cynnwys E400, E401, E402, E403, E404 , E405, E406, E407, E407(a), E410, E412, E413, E414, E415,E417, a/neu E418 yn swnio'n flasus i mi!

Ai hwn yw'r cymal gorau erioed mewn deddfwriaeth?

(2) Yn yr enw ac yn rheoliad 1 (enwi, cychwyn a chymhwyso) yn y testun Cymraeg yn lle "(Jeli Cwpan Fach)" rhodder "(Jeli Cwpanau Bach)".

Does dim geiriau!


Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.