Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Danteithion

Vaughan Roderick | 12:57, Dydd Mercher, 28 Ebrill 2010

collection_microphone_003.jpg
Mae 'na erthygl ddiddorol gan Iain Dale yn y Telegraph yn trafod y ffaith nad yw'r rhyngrwyd, yn groes i bob disgwyl, wedi chwarae rhan bwysig yn yr etholiad.

Doeddwn i ddim yn gwybod tan i mi ei darllen bod y Ceidwadwyr yn mynnu bod pob blog-bost a sylw gan ymgeisydd yn cael eu clirio gan y blaid yn ganolog cyn eu cyhoeddi.

Dydw i ddim yn gwybod ydy'r pleidiau eraill yn gwneud yr un fath ond mae'n ddiddorol nodi mai o flog Dylan Jones Evans, nad yw'n ymgeisydd y tro hwn, y tarddodd un o'r ychydig straeon Cymreig o unrhyw bwys i ledu y tu hwnt i'r we. A doedd honno ddim yn lot o stori mewn gwirionedd.

Ta beth, mae 'na bethau difyr i'w darllen a'u gweld yn y rhith-fyd. Dyma rai ohonyn nhw.

Sut mae Nigel Evans yn gwneud yn Ribble Valley, tybed? Mae'n debyg nad yw'r sedd mor ddiogel ac oedd hi.

Mae gan Alan Trench bost diddorol ynghylch ymddangosiad Eurfyl ap Gwilym ar Newsnight.

Ac i'n hatgoffa o'r dyddiau pan oedd teledu'n fwy bonheddig dyma ddarllediad gwleidyddol o 1955.

Mae ambell i beth cyfarwydd- sôn am daflu cardiau adnabod i'r bin ysbwriel a chwyno am y nifer o ffurflenni yr oedd yn rhaid i ffermwyr eu llenwi, er enghraifft. Ond a fyddai unrhyw ddarllediad y dyddiau hyn yn cynnwys y frawddeg. "Last Christmas was the gayest we have ever known"?

Rhodri.gifMae'n ymmdangos bod sgandal y lluniau ffug yn ymledu.

Dyma lun o Rhodri Morgan a rhyw un wedi ei wisgo fel gweithiwr adeiladu.

Gyda llaw, os ydych chi am ryw reswm am fy'n ngwylio ar y bocs heddiw rwy'n cadeirio dadl ar y cyfansoddiad ar BBC2 am 2.15 ac yn cyflwyno CF99 ar 10.00 ar S4C. Gyda lwc fe fydd 'na gyfle i flogio rhwng y ddwy.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.