Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Llwybr Llaethog

Vaughan Roderick | 14:33, Dydd Iau, 4 Mawrth 2010

Plain_logo_halfsize.gifMae'n wythnos o golledion yng Nghrymu. Nid yn unig yr ydym wedi colli un o'n mawrion gwleidyddol, daw newydd bod rhyd Llanrhystud i'w chau a Phafiliwn Corwen wedi went. Mewn ergyd drom i fynychwyr sefydliad Cymreig unigryw gwelaf fod NMB arall yn cyrraedd pen ei oes. Ni fydd 'na filk shakes yn Llanidloes o'r Pasg ymlaen.

O leiaf yn yr achos yma, yn wahanol i'r gyflafan honno pan wnaeth KFC fachu hanner dwsin o fariau llaeth dros nos mae gwyliwr ar y twr wedi seinio'r larwm. Mae trigolion Llanidloes yn trefnu protest. Pob nerth i'w braich!

Mewn peryg yn fan hyn mae un o ffiniau mwyaf pwysig Cymru. Nid ffin ddaearyddol economaidd nac ieithyddol mohoni ond ffin gymdeithasol o bwys- y llinell anweladwy lle mae "cafe late" yn diflannu o'r fwydlen a "frothy coffee" yn ymddangos yn ei le!

Os ydych chi'n chwilio am feddwl mawr ynghylch y mesur iaith- fe fydd gen i erthygl ar y prif wefan yn ddiweddarach heddiw!

Yn y cyfamser dyma ddyfyniad y dydd;

"Sex is a beautiful thing..." Brynle Williams. Peidiwch gofyn pryd nac i bwy!

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.