Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rhwydweithio

Vaughan Roderick | 10:12, Dydd Gwener, 15 Ionawr 2010

Mae hi wedi bod yn wythnos ryfedd yma yn y Bae. Gyda meddyliau pawb ar yr eira maw a'r etholiad i ddod doedd pethau ddim yn tanio rhywsut.

Fel arwydd bod pethau'r dechrau dychwelyd i'r patrwm arferol mae "Dau o'r Bae" a'r podlediad yn dychwelyd heddiw.

Dyma ambell i ddolen i'ch difyrru

"Why Are Welsh Tories More Successful Than Scottish Ones?" Cwestiwn da gan Iain Dale ond dyw e ddim yn cynnig ateb!

Cornish language is taught in nursery Times

Mae 'na hen ddigon o sylw yn cael ei roi heddiw i benderfyniad Bosch i gau ei ffatri ym Meisgyn ond prin iawn yw'r feirniadaeth o'r cwmni. Mae hynny'n anarferol yn y fath amgylchiadau ond mae 'na reswm am hynny. Mae Bosch yn enghraifft, unigryw bron, o gwmni rhyngwladol sy'n eiddo i elusen ac sy'n gwario'i elw ar achosion da. Nid ar chwarae bach y byddai'r cwmni wedi cymryd cam mor arswydus o drist.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.