Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rhwydweithio

Vaughan Roderick | 13:53, Dydd Mawrth, 1 Rhagfyr 2009

_39664761_circuit_board203b.jpgOce, mae pawb yn ddiamynedd heddiw. Dydw i ddim wedi clywed unrhyw beth, onest! Dyma ambell ddolen i'ch difyrru yn ystod yr oriau hir sydd o'n blaenau!

Mae'r Albanwyr yn dechrau dal lan 'da ni! Mae BBC yr Alban wedi lansio blog gwleidyddol Gaeleg. Niall O'Gallagher sydd wrthi ac fe wnaeth e ddewis diwrnod da i lansio ei flog wrth i'r Papur Gwyn ar annibyniaeth i'r Alban gael ei gyhoeddi. Os nad ydych chi'n deall Gaeleg (ac rwy'n rhyfeddu bod rhai o ddarllenwyr y blog yma yn gallu) dyma farn Brian Taylor a dyma farn yr Irish Times am gyflwr datganoli yn y Deyrnas Unedig. Gwell hwyr na hwyrach gyda'r ddolen olaf yna- ond mae'n werth darllen!

Mae ysgolian bach y Gogledd Orllewin oer o dan fygythiad ond nid yng Ngwynedd y tro hwn...

Alaska's Rural Schools Fight Off Extinction New York Times

Mae prif wrthblaid Awstralia mewn peryg o gwympo'n ddarnau. Mae hi newydd ethol ei thrydydd arweinydd mewn dwy flynedd, a hynny o un bleidlais!

Tony Abbott wins Liberal leadership ballot Australian

Newid hinsawdd yw'r "iceberg" sy'n dryllio'r blaid ac mae'n suddo fel y Titanic!

Liberals embrace spirit of kamikaze fundamentalism SMH

Daw brawddeg y diwrnod o erthygl gan Owen Jones ar Wales Home.

"Hegemonies of power are dynamic and are constantly being formed and reformulated through a conversation and debate between agents, be that of a covert or overt nature."

Pwy sy'n dweud nad yw Llafur yn siarad iaith y bobol? Ac yn olaf fe wnaeth rhywun hela'r neges yma i fi "ai fan hyn fydd pobol Carwyn yn dathlu?" Drygionus.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.