Rialtwch
Mae 'na ormod o amser gan rai pobol! Dwn i ddim pam y byddai rhywun yn sganio hen gylchgronau teledu o'r chwedegau a'u gosod nhw ar lein. Ar y llaw arall maen nhw'n ddifyr i ddarllen!
O dudalennau "Tevision Weekly" cawn ddysgu bod gan gwylwyr y dewis ar Awst 24, 1967 o wylio "Tri Chynnig", "Y Dydd" a "Tarzan" ar Deledu Cymru neu "TWW Reports" a "Sixth Form Challenge" ar y Gwasanaeth Cyffredinol. Beth oedd "Tri Chynnig"? Yn ôl y cylchgrawn "cyfle i daflu dartiau ac ateb cwestiynau" oedd hi. Mae hynny'n atgoffa rhywun o rywbeth. Piti na feddyliodd teledu Cymru feddwl am gofrestri hawlfraint!
Anghofiwch am Susan Boyle a Paul Potts. Mae gan yr Iwcrain dalent! Diolch i Dewi am dynnu fy sylw at gelfyddyd dywod ryfeddol Kseniya Simonova.
Mae Corfforaeth Darlledu Canada wedi gosod llwyth o drysorau ar lein gan gynnwys y darn bach yma am Peter Sellers. Mae'n ddiddorol ynddi hi ei hun ond mae dau beth yn sefyll allan- y smocio a'r Saesneg ryfeddol o grand sy'n cael ei defnyddio gan yr actor a'i holwraig o Ganada.
Yn olaf gan fod Cyngor Prydain ac Iwerddon wedi bod yn trafod ieithoedd lleiafrifol ar Jersi dyma ychydig o Jèrriais.
Mae Eisteddfod Flynyddol Jersi yn cael ei chynnal am y 101fed tro ar hyn o bryd. Mae 'na bigion i gael ar wefan Channel TV yn fan hyn.
Gyda llaw, fe wnaeth cynhyrchydd "Tri Chynnig" Huw Davies ddiweddu fyny fel pennaeth "Channel TV". Mae'r byd yn fach!
SylwadauAnfon sylw
Beth sydd yn ddiddorol am 1967 yw safon uchel y rhaglenni i gymharu a heddiw.