Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rhwydweithio

Vaughan Roderick | 16:46, Dydd Iau, 12 Tachwedd 2009

_42186068_stpiranflag203.gifDyma ambell i ddolen i'ch difyrru neu'ch gwylltio.

Yn gyntaf un i'ch corddi o'r Daily Mail.

Cornwall to introduce bilingual street signs (although just 300 people speak Cornish)

Mae fersiwn y BBC o'r stori ychydig yn wahanol!

Dyma ddau flog sy'n lot o sbort. Yn gyntaf "teyrnged" i ffotagraffwyr papurau lleol.

Angry People in Local Newspapers

A rhywbeth tebyg...

Glum Councillors

Am ryw reswm mae'r rhan fwyaf o gynghorwyr ar y safle yn Ddemocratiaid Rhyddfrydol!
Efallai y bydd hynny o gysur i Glyn Davies!

Cenedlaetholwyr Ewrop ar eu ffordd i Gatalonia
. Mae na fwy am y cefndir ar flog "Syniadau".

Diweddariad; Mae darllen y sylwadau ar safle'r Daily Mail yn addysgiadol! Mae 'na ddigon o bobol yn croesawi'r newid ond mae ambell un sy ddim. Rhain, er enghraifft!

"Just like Welsh....... Cornish isn't a real language..... it's just an ugly noise."

"What a criminal waste of taxpayer's money. These minorities seem to get what they want however idiotic. It started with the Welsh and it shouldn't have set a precedent."

"Splendid!!, I do not visit Scotland, Ireland or Wales because of rampant nationalism, now I must include Cornwall. If sufficient other 'foreigners follow suit, Cornwall will go bust and a damn good job too!!"

"New Labour twerpery gone mad!"

Fel mae'n digwydd does 'na ddim un cynghorydd Llafur ar gyngor Cernyw. Y Ceidwadwyr yw'r blaid fwyaf... ond beth yw ffeithiau i rwystro dadl neu ragfarn!


SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 19:29 ar 12 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Macsen:

    Llongyfarchiadau i'r Cernywiaid ac yn enwedig i Dick Cole.

    A pharch mawr i'r Catalanwyr am geisio ffordd gyfansoddiadol a mentrus o gael annibynniaeth er gwaetha styfnigrwydd siofinistaidd y cenedlaetholwyr Sbaenaidd.


  • 2. Am 20:05 ar 13 Tachwedd 2009, ysgrifennodd monwynsyn:

    Diddorol mai un o'r gwrthwynebwyr oedd un o aelodau Ceidwadol Cernyw - Morwenna Williams !! Dim cyswllt a Chymru mae'm amlwg.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.