Rialtwch
Pan mae basged awgrymiadau "Rialtwch" bron yn wag mae rhyw un neu ryw rai yn dod i'r fei! Diolch i Obell o Melbourne am gynnwys yr wythnos hon.
Fel teyrnged fach iddo sinema'r "Odeon Star" yn Semaphore, De Awstralia sydd yn y llun.
Mae'r sinema deuluol hon rownd y gornel i gartref cyfeillion i mi ac mae'n goroesi rhywsut yng nghysgod multiplex anferth.
Ymlaen a ni at y ffilmiau!
Fe fydd unrhyw un sy'n gweithio ym myd darlledu yn gyfarwydd iawn â theimladau'r ddau gyfaill yma.
Yn y dyddiau amlbleidiol yma dyw'r "swingometer" ddim yn gweithio cystal ag oedd e yn ôl yn nyddiau dwy blaid y pumdegau. Nid bod hynny'n ein rhwystro rhag atgyfodi'r hen gyfaill ym mhob etholiad cyffredinol! Mewn 35 eiliad dyma hanner canrif o "swingometers" y BBC o 1955 ymlaen.
Thema cyfres HTV "Arthur of the Britons" yw'r miwsig. Am ryw reswm fe ddefnyddiodd y BBC hi ar gyfer rhaglenni etholiad 1983. Rhywbeth i wneud ac Arthur Scargill, efallai!
Blas o'r wythdegau sydd nesaf gydag ychydig o gerddoriaeth pync... yng Ngaeleg.
A dyma ychydig o gerddoriaeth gyfoes te reo Māori o Seland Newydd.
Mae 'na un ffilm arall na fedra i fewnosod ond sy'n werth ei gwylio. Yn fan hyn mae Dick Cavett yn rhannu atgofion am Richard Burton a chewch wylio hanner awr cyfan o'r actor yn trafod Cymru, ei deulu a'i grefft.