Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Handbags a Gladrags

Vaughan Roderick | 09:36, Dydd Gwener, 9 Hydref 2009

ElinJones.jpg

Cafodd Elin Jones ei gwobrwyo neithiwr gan Farmer's Weekly mewn cinio arbennig yn Llundain.

Cafodd hi a phrif fet y llywodraeth eu henwi fel "arwyr i ffermwyr" oherwydd eu gwaith i frwydro'r diciâu mewn gwartheg. Mae'n neis gweld bod Elin wedi gwisgo'n sbeshal ar gyfer yr achlysur!

Mae'n debyg bod wyneb Hillary Benn oedd ar yr un bwrdd hyd yn oed yn fwy o bictiwr. Efallai bod geiriau Llywydd yr NFU, Peter Kendall wedi ei frifo.;

"Together these women have shown leadership in controversial circumstances to champion a critical trial for the control of TB in Wales. This is difficult political territory that needs brave leadership in the face of a strong single-issue pressure group opposition."

Mae Ysgrifennydd Amaeth Llysieuol Lloegr yn gwrthwynebu difa moch daear wrth gwrs.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 15:36 ar 12 Hydref 2009, ysgrifennodd Nic Dafis:

    Mae'n neis gweld bod Elin wedi gwisgo'n sbeshal ar gyfer yr achlysur!

    Beth yn y byd?

    Bydd yn neisach byth pan na fydd menywod yn cael eu barnu am sut maen nhw'n gwisgo.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.