Rhwydweithio
Rwy'n deall yn iawn y rhesymeg y tu ôl i benderfyniad penaethiaid Golwg360 i fabwysiadu strategaeth "byr ac aml" ar y gwefan. Mae hynny, ynghyd a'r sylw i straeon Prydeinig a thramor, yn ei wahaniaethu o'r safle yma ac yn gwneud y gorau o adnoddau sydd, mewn gwirionedd, yn ddigon cyfyng.
Rwy'n sicr hefyd bod Dylan a'i griw wedi bod yn ymwybodol o'r cychwyn y byddai angen dechrau ychwanegu tipyn o gig at yr esgyrn yn weddol o fuan. Mae hynny yn awr yn digwydd gyda chyhoeddi ambell i beth mwy swmpus.
Enghreifftiau o hynny yw erthygl ragorol Ifan Morgan Jones ar beirannau cyfieithu ar-lein a'r deg uchaf o gymeriadau plant Cymraeg. Nawr mae'r rhestr blant ei hun yn nonsens pur (lle mae cyfres y Llewod er enghraifft?) ond, wrth gwrs, dyna yw holl bwynt y peth. Mae'n erthygl sydd i fod i esgor ar gwynion crintachlyd gan bobol fel fi a thrafod brwd ymysg ffrindiau.
Ta beth, dyma gasgliad o ddolenni amrywiol i'ch difyrru.
Mae na gythraul o ffrae rhwng Slofacia a Hwngari ynghylch hawliau ieithyddol.
War over words Budapest Times
Fico Surprised at Hungarian Ignorance TASR
Yn agosach at adref
The Cornish: They revolted in 1497, now they're at it again Independent
Anrhefn addysgiadol Gogledd Iwerddon
The toughest test Belfast Telegraph
Fe fydd hwn yn deimlad cyfarwydd i Lafur Cymru. Ar ôl tri chwarter canrif ydy'r byd yn dod i ben i Fianna Fáil?
Hell might be about to freeze over for Fianna Fáil Irish Times
Ac oherwydd fy mod yn sicr ei fod yn torri ei galon os oes wythnos yn mynd heibio heb iddo ymddangos ar y blog...
Lembit; You ask the questions Independent