Rhwydweithio
Mae nifer o bobol wedi tynnu fy sylw at "Google Translate" teclyn newydd sy'n cyfieithu Cymraeg yn rhyfeddol o dda. Mae 'na ragor o wybodaeth ar "metastwnsh". Draw yn Awstralia mae Andy Bell wedi bod yn cael sbort da'r teclyn ar ei flog.
Mae 'na erthygl hynod ddiddorol ar safle'r Telegraph gan Simon Heffer ynghylch sefyllfa wleidyddol yr Alban. Os ewch chi y tu hwnt i'r rhethreg mae'n hynod o graff.
England pays through the nose for Scottish values Telegraph
Mae darllen yr erthygl yma ar yr un safle yn gwneud i rywun sylweddoli pa mor wahanol i'w gilydd yw cyfundrefnau addysg Cymru a Lloegr erbyn hyn.
Going back to school is a testing time for parents, too Telegraph
Ar y blogs mae Alwyn ap Huw ar ei orau a "Syniadau" yr un mor feddylgar ac erioed wrth drafod newid ieithyddol yn Ysgol Trimsaran.
Glesni cymru neu goloneiddio gwyrdd? Hen Rech Flin
A seamless transition Syniadau