Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Ambell i Oracl

Vaughan Roderick | 15:31, Dydd Mercher, 16 Medi 2009

FT.jpgFe wnes i ambell i broffwydoliaeth ynghylch yr Etholiad yng Nghymru mewn post Ddydd Llun. Mae'n ymddangos bod y firws wedi cydio gydag eraill yn ymuno yn y sbri.

Mae proffwydoliaethau Betsan yn fan hyn a rhai Martin Kettle o'r Guardian wedi eu cynnwys yn ei erthygl "Wales; a land lost to Labour".

Mae seffolegwyr Electoral Calculus hefyd wedi dweud eu dweud ar ol craffu ar ganlyniadau arolygon barn ac etholiadau diweddar. Yn adran "sedd wrth sedd" y gwefan mae'r safle'n darogan y canlyniad yma.

Llafur; 20
Ceidwadwyr;12
Plaid Cymru; 5
Dem.Rhydd. 2
Annibynol; 1

Fe fyddai'r canlyniad yna yn hanesyddol o wael i'w Lafur ond mae 'na waith i ddod. Dyw'r gwefan ddim wedi didoli'r seddi unigol eto ond dyma'r broffwydoliaeth ddiweddaraf yn seiliedig ar arwg barn YouGov.

Llafur; 14
Ceidwadwyr;18
Plaid Cymru; 5
Dem.Rhydd. 2
Annibynol; 1

Fedra i ddim meddwl am unrhyw adeg yn fy mywyd pan na fyswn wedi chwerthin ar ben y fath broffwydoliaeth. Ac eithio nawr, hynny yw.

Yn y cyfamser dal i gysgu ar y cledrau mae Llafur y Cynulliad gan boeni'n fwy am "enwebiadau Huw" a "gwendid Edwina ymhlith aelodau seneddol" na'r trychineb posib sydd o'u blaenau.

A fydd y ras i olynu Rhodri yn fater o ddeuddyn moel yn ymgiprys am grib?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 22:46 ar 16 Medi 2009, ysgrifennodd Emyr:

    Dwi'n jynci am y math yma o gau-broffwydo, ond mae'n werth nodi'r geiriau isod gan un o'r rhai fu'n gwneud sylwadau ar wefan y Guardian am erthygl martin Kettle:

    "having looked at the Electoral Calculus site, this prediction is NOT based on a Welsh poll, but extrapolates UK wide data to Wales. Such polls have a long and distinguished history of being farcically inaccurate. Looking at the data, EC have not even attempted to predict a Plaid share of the vote due to insufficient data, and have instead said that they will get exactly the same as in 2005!"

    Ydi o'n iawn?


  • 2. Am 23:08 ar 16 Medi 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Mae 'na nifer o bethau'n mynd ymlaen yn fan hyn. Fe wnes i gynnwys y ddwy broffwydoliaeth gan EC oherwydd hynny. Fe nealltwriaeth i yw bod y broffwydoliaeth "sedd wrth sedd" yn ystyrlon ac mai "snapshot" yw'r llall. Mae proffwydo pleidlais Plaid Cymru yn rhyfeddol o anodd oherwydd ddiffyg data.

    Fe wna i gyfaddefiad yn fan hyn. Ers degawd a mwy rwyf i ac eraill wedi bod yn curo'n pennau yn erbyn wal frics i geisio cael y BBC i gynnal arolygon barn ynghylch bwriadau pleidleisio yng Nghymru. Oni ddylai'r ddarlledwr cyhoeddus wneud yn iawn am fethiant y farchnad i ddarparu arolygon Cymreig?

    "Wrth gwrs" yw'r ateb amlwg a syml yn fy marn i ac eraill o fy nghydweithwyr.

    Nid yng nghoridorau BBC Cymru mae'r broblem. Ers i Newsnight wneud arolwg dodji mewn is-etholiad mae'r BBC wedi ein gwahardd rhag comisiynu arolygon ynghylch bwriadau pleidleisio. Mae effaith y penderfyniad hwnnw yng Nghymru wedi bod yn ddifrifol wael i newyddiaduraeth a'r lles cyhoeddus yn fy marn, llwyr bersonol, i.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.