Rhwydweithio
Diolch i Harri yn y sylwadau am adael i mi wybod bod darnau o'r blog yma wedi cael eu darllen mewn cystadleuaeth ym mhabell y dysgwyr. Rwy'n rhyfeddu! Cofiwch, mae 'na lot o "stwff" yma erbyn hyn- mwy nac ar unrhyw flog Cymraeg arall. Mae'n rhaid bod 'na ambell i berl yn rhywle!
Gan fy mod wedi sôn am faint y cynnwys yn fan hyn gwell i mi gyfaddef fy mod yn dechrau becso bod Glyn a chyfranwyr eraill blog Cylchgrawn a hefyd Hywel yn ceisio cipio fy nghoron!
Hyd yma'r sgôr ar gyfer y nifer o erthyglau ym Mis Awst yw Cylchgrawn 30 Gwynfryn 11 Vaughan 7! Mae gan flogs diwylliannol fantais dros un gwleidyddol yn ystod wythnos 'steddfod wrth gwrs! Serch hynny ni fedrai ganiatáu i'r fath sefyllfa barhau. Rwy'n benderfynol o fod ar y blaen erbyn diwedd y mis!
Gan fy mod wedi crybwyll pabell y dysgwyr mae'n werth i unrhyw un sy'n ymddiddori mewn technegau dysgu iaith gael cipolwg ar "Toku Reo" cwrs iaith ar-lein ragorol Maori TV.
Dyma gasgliad o ddolenni diddorol eraill i'ch diddanu.
Gaelic schools fund gets £800,000 BBC Alban
Adams vows to stay at SF helm Irish Times
Keep Your Hands Off Our Haggis New York Times
Mae 'na ddadl ddifyr iawn ar flogs Plaid Cymru ynghylch targedu budd-daliadau a breintiau yn sgil ein stori ynghylch hawl yr henoed i deithio am ddim ar fysus. Mae'n werth darllen sylwadau Adam Price, Rhydian Fôn James a John Dixon.
Ac yn olaf efallai bod hi'n bryd i mi ymweld â'r "in-laws"!
Selangor govt: No blanket ban on beer sales Malaysia Star
Baner Selangor sydd yn y llun, gyda llaw. Y dewis oedd llun o'r faner neu un o Glyn Evans a doeddwn i ddim am roi'r boddhad iddo fe!