Rhwydweithio
Does dim dwywaith yn fy meddwl i mai gwefan y Llyfrgell Genedlaethol yw un o'r safleoedd mwyaf difyr ar y we. Os oes gen i ychydig oriau i sbario rwy'n cael modd i fyw yn pori trwy'r cynnwys. Ar hyn o bryd rwy'n gweithio fy ffordd trwy'r "Llyfrau Gleision". P'un ai oedden nhw'n "frad" ai peidio maen nhw'n cyfleu portread byw iawn o Gymru'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cymerwch jyst un frawddeg y des i ar ei draws hi.
"The whole row of houses in which this is school is held...had not a single, not even a common, privy. The inhabitants resorted to a hedge-side in a field adjoining at the back, wholly unsheltered from sight... Not to pursue such a subject into further details I will merely add that the disregard of clenliness and decency is more observable in the purely Welsh than in the Anglicised districts..."
Mae'r frawddeg honno yn dweud mwy am Gymru oes Victoria ac am agweddau tuag at y Cymry na holl nofelau Alexander Corddell a Richard Llywelyn at ei gilydd!
Beth arall sydd 'w gweld ar y we, dywedwch? Dyma ragflas o un o ddigwyddidau'r Eisteddfod.
Agor cronfa i gynnal wal 'Cofiwch Dryweryn' Golwg360
Cofiwch, os ydy'r adroddiadau'n gywir mae 'na gryn debygrwydd rhwng maes yr Eisteddfod a Chapel Celyn!
'Dowch i'r Brifwyl beth bynnag' BBC
Os nad yw'r Bala'n apelio dyma ddewis arall...
Summer camp offers 'godless' alternative for atheists Guardian
Ac os oes angen prawf, glaw ai peidio, bod dyddiau'r cŵn wedi cyrraedd yn newyddiadurol dyma ddau bennawd o fasged gopi BBC Cymru; "Car In Kitchen LATEST" a "COLA BOTTLES block road". Mae'r straeon yn llai diddorol na'r penawdau!
SylwadauAnfon sylw
Hia Vaughan
be - gwylio teledu BBC ddim digon diddorol? ;-)
Wedi defnyddio'r wefan lot ar gyfer traethodau yn enwedig y bywgraffiadur https://yba.llgc.org.uk/cy/index.html
- safio mynd draw i Aberystwyth!