Rhwydweithio
Fe fyddai John Knox yn troi yn ei fedd, efallai, o weld yr hyn sy'n digwydd ar ynysoedd Heledd!
Mae ynyswyr Lewis nid yn unig yn gorfod dygymod a gwasanaeth fferi sabothol ond hefyd y partneriaeth sifil cyntaf ar yr ynys- a'r cyfan yn digwydd dros yr un penwythnos! Mae'n debyg mai'r gwasanaeth partneriaeth sifil oedd y cyntaf i'w gynnal yng Ngaeleg yr Alban.
When the boat comes in ... Glasgow Herald
Lewis hosts its first gay wedding Scotland on Sunday
Mae'r stori nesaf yn ychwanegu at fy storfa o ffeithiau rhyfedd. Wyddoch chi bod yr "Hard Rock Cafe" yn eiddo i un o lwythau brodorol yr Unol Daleithiau? Na finnau chwaith!
Keep it fresh at Hard Rock International Telegraph
Ar yr un cyfandir dyma hanes llwyth arall sydd yn llythrennol dan warchae gan lywodraeth Canada.
Mowhawks vs. Canada Indian Country Today
Yn ôl yng Nghymru fach mae 'na erthygl ddiddorol ar flog "Syniadau" ynghylch y syniad o "Oyster Card i Gymru.
Cyflymarch Syniadau
Dydw i ddim wedi cael gair a Karl y bwci ers tro. Diolch byth bod BlogMenai wedi canfod prisiau Paddy Power!
Betio a ballu Blog Menai
Mae BBC Cymru wedi dechrau ffilmio'r gyfres nesaf o "Doctor Who" yng Nghaerdydd. Ai'r gwylanod fydd ei elynion nesaf?