Rialtwch
Fe fydd ambell i athro hen ffasiwn yn mwynhau'r sgets yma o Seland Newydd.
Clyfar... a doniol, os braidd yn anweddus. Cerddoriaeth ystyrlon Bonnie Tyler.
Diolch i AJB yn Melbourne am rheiny.
Nawr dyma i chi ychydig o newyddion da i'r rheiny ohonoch chi sy'n mwynhau "Rialtwch". Mae WITBN, cymdeithas ryngwladol sy'n dwyn ynghyd darlledwr brodorol a lleiafrifol yn lansio cyfres newydd "Indigenous Insight". Fe fydd y rhaglenni wythnosol hanner awr o hyd yn cynnwys cyfraniadau gan APTN, BBC Alba, NRK Sámi Radio, TG4, TITV/PTS a Maori TV. Yn anffodus, er bod S4C yn aelod o'r gymdeithas dyw hi ddim yn ymddangos bod y sianel yn cymryd rhan yn y cynllun yma.
Gwasanaeth Teledu brodorol Canada yn APTN. Dydw i ddim yn deall mewn gwirionedd beth sy'n "frodorol" yn y gerddoriaeth ar "Arbor" ac eithrio cefndir ethnig y perfformwyr. Ar y llaw arall gallai selogion yr Ŵyl gerdd Dant ddweud yr un peth am C2!
Trigolion Gogledd Llychlyn yw'r Sami sy'n cael eu gwasanaethu gan NRK Sami Radio. Dyma eu hymdrech nhw ar gyfer cystadleuaeth Eurovision y llynedd.