Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rhwydweithio

Vaughan Roderick | 20:49, Dydd Mawrth, 9 Mehefin 2009

Mae bois "Politics Cymru" wedi cwpla eu cyrsiau newyddiadurol. Does 'na ddim llawer o gyfleoedd yn y busnes 'ma ar hyn o bryd felly mae'r Dewis yn canolbwyntio ar eu gwefan. Galwch draw.

Mae Paul Flynn ar ei orau. "Neil (Kinnock) had spent his political life in the search for a full stop. He still has not found it."

Yr un pwnc. Dadeni'r Kinnocks Guardian

Dim Cernyweg medd yr heddlu Agence Bretagne Presse

Criced yn yr Iwerddon AFP

Rwy'n deall y dadleuon ynghylch gemau prawf ac undydd ond oes 'na unrhyw reswm dros beidio cael Cymru fel gwlad yng nghystadlaethau Twenty20?

Cofiwch y Blogiadur.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 21:55 ar 9 Mehefin 2009, ysgrifennodd Siôn Aled:

    Po fwyaf dwi’n ei ddarllen o’r newyddion y dyddiau yma, po amlaf dwi’n gofyn y cwestiwn i mi fy hun, “Pam bod unrhyw un yn pleidleisio i’r Blaid Lafur bellach?”
    Os dach chi’n sosialydd, does yna fawr ddim o hynny ar ôl yno a ‘dŵr coch” Rhodri rhwng Llafur Newydd Llundain a Llafur Ddim Cweit mor Newydd Cymru’n debycach i win coch M&S swbwrbia.
    Os dach chi’n glynu wrth yr elfen ‘Gymreig’ honedig, mae gyda chi Blaid Cymru.
    Os ydy polisïau economaidd Llafur at eich dant, pam ddim bod yn fwy gonest ac ochri efo’r Torïaid?
    Os dach chi’n licio’r elfen dodalitaraidd, cardiau adnabod a llwytho pawb i mewn i gronfa ddata ac ati, pam ddim mynd yr holl ffordd gyda’r BNP?
    Os dach chi’n hoff o wastraffu pleidlais, mae’r Dem Rhyddiaid yno i fodloni’ch bryd.
    Ac os dach chi isio arweiniad, wel beryg bod yna rywbeth cadarnach yn horosgop y Daily Sport (heb sôn am golofn Lembit).
    Yn wir, yr unig reswm, greda i, y byddai unrhyw un yn pleidleisio dros Lafur bellach yw oherwydd rhyw ymlyniad sentimental, llwythol. Rhywbeth sy’n f’atgoffa o’r hen wraig mewn capel lle bûm yn pregethu dro’n ôl. Doedd ond saith o ffyddloniaid yno, pawb ohonynt yn eu hwythdegau, ac meddai’r aelod yma wrth iddi adael: “Dwi’n gwybod bod y lle ‘ma’n mynd i gau cyn bo hir ond dwi jest yn gobeithio y bydda i’n mynd cyn y capel.”

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.