Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Mae'n braf cael byw mewn tŷ haf...

Vaughan Roderick | 14:26, Dydd Mercher, 3 Mehefin 2009

Ymhen ychydig fe fydd gwefan BBC Cymru yn cyhoeddi crynodeb o'r wybodaeth sydd ar gael ynghylch treuliau Aelodau Seneddol Cymru. Mae'n anodd cadw trac weithiau!

Alun Michael yw'r diweddaraf i ddenu sylw newyddiadurwyr. Yn unol â'r rheolau oedd yn bodoli ar y pryd pan ddyrchafwyd Alun i'r cabinet fe glustnododd ei fflat yn Llundain fel ei brif gartref ac fe barhaodd a'r drefn honno nes iddo adael y llywodraeth. Digon teg.

Ond arhoswch am eiliad. Beth am y cyfnod yna pan oedd Alun yn Brif Ysgrifennydd Cymru? Dyma sydd ganddo i ddweud mewn e-bost i'r BBC.

My main home has always been in Penarth but - in common with all Ministers - the system defined Ministers as being London-based and required Ministers to claim on the constituency home as the "second home" irrespective of any personal arrangements. That kicked in immediately when I became a Minister in 1997. Being able to change definitions is a quite recent development following a rule change, and I have now used that choice - now that I am out of Government and a back-bencher - to designate Penarth as my main home and to reflect the reality of my situation. That choice wasn't there in the past. During my time at the Assembly I was still an MP but I was intending to stand down at the general election and the question of designation never arose.

Hynny yw, os nad ydw i'n cam-ddeall, yn ystod ei gyfnod fel Prif Ysgrifennydd, Cymru oedd "ail-gartref" Alun yng ngolwg yr awdurdodau yn San Steffan. Nawr Alun yw un o'r dynion lleiaf ariangar dw i'n ei nabod a dyw e dddim o'r fath o berson i chwrae'r system ond onid oes 'na rywbeth braidd yn rhyfedd mewn arwain gwlad tra'n ei chlustnodi fel ail gartref i chi?

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.