Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Owainbevan (2)

Vaughan Roderick | 12:42, Dydd Gwener, 27 Mawrth 2009

Mae safle "Aneuringlyndwr" wedi cofrestri yn enw David Taylor. Mae David wrth gwrs yn gweithio i Leighton Andrews sy'n ddirprwy i Ieuan Wyn Jones. Ydy galw bos dy fos yn glown yn gall, dywedwch?

Yn fwy perthnasol ydy hyrwyddwyr y safle yn gyfarwydd â deddfwriaeth etholiadol? Yn fwyaf arbennig ydyn nhw'n ymwybodol o'r rheolau ynghylch cyhoeddi enw asiant ar unrhyw ddeunydd etholiadol a'r cyfyngiadau ar wariant ac ymgyrchu gan unrhyw un nad ydynt yn gweithredu gyda sêl bendith asiant neu ymgeisydd?

Jyst gofyn.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:51 ar 27 Mawrth 2009, ysgrifennodd twm:

    Ers pryd mae David Taylor yn cyfri fel y "Student" mae Eluned Morgan wedi dweud sydd tu ol i'r wefan?

    Dyla rhywun bod yn gofyn y cwestiwn yma.

    Alun

  • 2. Am 21:09 ar 27 Mawrth 2009, ysgrifennodd Dyfrig:

    Am syndod. Pam fod Llafur yn parhau i gyflogi David Taylor?

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.