Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cau'r Siop

Vaughan Roderick | 13:02, Dydd Iau, 5 Mawrth 2009

Mae blogiau'n mynd a dod ond rwy'n amau bod Gareth Hughes wedi gosod record! Trueni!

Mae diflaniad sianel wleidyddol ITV local yn dipyn o glec. Dydw i ddim yn sicr beth fydd effaith diwedd ITV Local ar y gwasanaeth ar-lein Cymraeg gan fod hwnnw yn fenter ar y cyd gyda S4C. Heb os mae'n un o'r safleoedd Cymraeg gorau ar y we. Fe fyddai'n golled difrifol.

DIWEDDARIAD;Meddai llefarydd ar ran S4C, "Mae gan S4C gytundeb gydag ITV i ddarparu gwasanaeth ITV Local Cymru. Rydym yn gweithio gydag ITV yn sgil y cyhoeddiad yn ymwneud ag ITV Local."

Dydw i fawr callach!

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.